Ynys yn rhyddhau ‘Gyda Ni’

Mae Ynys, sef y band sy’n cael ei arwain gan Dylan Hughes, gynt o Radio Luxembourg a Race Horses, wedi rhyddhau eu sengl ddiweddaraf. 

‘Gyda Ni’ ydy enw’r trac newydd sydd allan ers dydd Llun 10 Mehefin. 

Daw’r sengl wrth i Ynys baratoi i ryddhau albwm newydd dan yr enw ‘Dosbarth Nos’ a fydd yn glanio ddydd Gwener 12 Gorffennaf ar label Recordiau Libertino.  

Mae’r sengl, sy’n dilyn ‘Aros Amdanat Ti’, yn archwilio’r ochr dywyll sydd i gyfryngau cymdeithasol ond wedi’i gyfleu mewn modd hafaidd a hypnotig. 

“Rydw i wastad wedi bod wrth fy modd gyda chasgliadau Motown a Northern Soul ac mae ‘Gyda Ni’ yn plethu tua 100 o ganeuon gwahanol ynghyd – gan greu’r gân roeddwn i wastad eisiau ei chlywed fy hun” eglura Dylan.

Wedi’i recordio’n fyw dros gyfnod o bedwar diwrnod yn Stiwdios Mwnci yng ngorllewin Cymru, mae’r albwm yn cyfleu esblygiad cerddorol Ynys – wrth iddynt ddilyn trywydd mwy egnïol ac anturus.