Mae’r band o Fôn, Ffatri Jam, wedi rhyddhau eu sengl ddiweddaraf ers dydd Gwener 24 Mai.
Trac Saesneg ydy’r sengl newydd o’r enw ‘Chemical Paradise’ ac roedd cyfle cyntaf i glywed y gân ar raglen BBC Radio Cymru Mirain Iwerydd wythnos diwethaf.
Bydd cyfle i weld Ffatri Jam yn perfformio’n fyw yng Ngŵyl Cefni, Llangefni ar 8 Mehefin.