Worldcub yn rhyddhau teitl-drac albwm

Mae Worldcub wedi rhyddhau eu sengl newydd, ‘Back to the Beginning’ ers dydd Gwener 15 Mawrth.

Dyma ydy teitl drac eu halbwm cysyniadol newydd fydd allan ar 17 Mai eleni.

Yn gasgliad o 14 trac sy’n ein tywys ar daith drwy hen atgofion a’r gorffennol, mae ‘Back to the Beginning’ wedi’i weu o hooks bachog, myfyrdodau meddal ac offeryniaeth breuddwydiol.

Bydd yr albwm, yn cynnwys dau drac Cymraeg, sef ‘Pwysau Yn Pwyso’ ac ‘Hel y Hadau’, yn ogystal â’u sengl ddiweddaraf, ‘Look Through the Keyhole’, ddaeth allan yn 2022.

Law yn llaw â’r caneuon newydd, mae Worldcub yn dychwelyd gyda leinyp newydd i gyd-fynd wrth i Jasmine Roberts (gitâr) a Calvin Thomas (bas) ymuno â’r brodyr, Cynyr a Dion Hamer.