Mae Morgan Elwy wedi dod ynghyd unwaith eto gyda’i bartner cerddorol rheolaidd Pen Dub i ryddhau sengl ddwbl newydd.
‘Coroni Cariad’ a ‘Mwg Drwg’ ydy enw’r ddau drac newydd sy’n ffrwyth llafur y cerddor poblogaidd o Lansannan a’r cynhyrchydd sydd wedi bod yn bartner cerddorol rheolaidd iddo yn y gorffennol.
Mae’r ddau wedi cyfuno eu synau reggae sawl gwaith bellach gan gynnwys ar y senglau ‘Tywysog Ni’ a ryddhawyd yn 2021 ac yna ‘Fel Hyn’ a ryddhawyd ym Medi 2022. Bu i’r ddau hefyd ddod ynghyd gyda brawd bach Morgan, sef Eban Elwy, i ryddhau’r sengl ‘Gobaith, Ffydd a Nerth’ ym mis Gorffennaf eleni.
Gan gadw pethau yn y teulu unwaith eto, mae’r sengl newydd yn cael ei rhyddhau ar label Recordiau Bryn Rock, sef y label sy’n cael ei redeg gan frawd arall Morgan, Jacob Elwy.
Yn plethu perfformiad lleisiol unigryw gyda geiriau craff Morgan, mae’r traciau hefyd yn serennu Edwin Humphreys ar y sax.
Dyma fersiwn byw o ‘Cariad Coroni’ yn cael ei pherfformio gan y ddeuawd:
- synnai
- synna’u
- synna
- synnu
- bynnau
- pynnau
- cynnau
- gynnau
- lynnau
- rynnau
- syrnau
- synnaf
- synnan
- synnon
- synnwyr
- syniadau
- synion
- synod
- ynnau
- usynnau
- synni
- Anwybyddu
- Dysgu
- Nôl
- Nesaf