Ail albwm Cwtsh ar CD

Mae ail albwm y band Cwtsh bellach ar gael ar ffurf CD.

Rhyddhawyd ‘Llinell Amser’ yn wreiddiol ym mis Mawrth eleni, ond yn y lle cyntaf, dim ond ar y llwyfannau digidol oedd hwn ar gael.

Bellach mae’r albwm 14 track ar gael ar CD hefyd, ac mae modd archebu ar safle Bandcamp Cwtsh.

Daeth Cwtsh i fodolaeth yn dilyn sgwrs rhwng Siôn Lewis ac Alys Llywelyn-Hughes ar ddiwedd gig Mr, yn Eisteddfod Genedlaethol, Llanrwst yn 2019.

Mae ‘Llinell Amser’ yn ddilyniant i albwm cyntaf y band, ‘Gyda’n Gilydd’, a ryddhawyd yn Chwefror 2021.