Mae’r prosiect cerddorol o Aberystwyth, Ynys, wedi rhyddhau eu sengl ddiweddaraf, gan hefyd gyhoeddi bod albwm newydd ar y ffordd.
‘Aros Amdanat Ti’ ydy enw’r trac newydd gan Ynys sef y prosiect sy’n cael ei arwain gan y cerddor profiadol, Dylan Hughes.
Mae’r sengl newydd allan ar label Libertino, ac mae’r label wedi datgelu hefyd y bydd albwm newydd Ynys, ‘Dosbarth Nos’ yn cael ei ryddhau ddydd Gwener 12 Gorffennaf, gan ddilyn albwm cyntaf y band a enwebwyd ar gyfer y Wobr Gerddoriaeth Gymreig 2023.
Wedi’i recordio’n fyw dros gyfnod o bedwar diwrnod yn Stiwdios Mwnci yng Ngorllewin Cymru, mae’r albwm yn cyfleu esblygiad cerddorol Ynys – wrth iddynt ddilyn trywydd mwy egnïol ac anturus gyda threfniannau deinamig sy’n dal naws byw’r band.
Mae ‘Dosbarth Nos’ yn garreg filltir arbennig yn nhaith greadigol Ynys, gydag arddull unigryw Dylan, ynghyd ag egni cydweithredol y band, yn arwain at albwm llawn bwriad a hyder.
Mae prif sengl yr albwm, ‘Aros Amdanat Ti’, yn cyfleu dylanwadau cerddorol Dylan, yn enwedig ei edmygedd o recordiau cynnar Paul McCartney a Todd Rundgren.
“Mae wedi cymryd peth amser imi fagu’r hyder i roi rhywbeth mor bositif allan yno, ond dwi’n falch iawn ohoni” eglura Dylan.