‘Adnabod Ti’ – sengl newydd Maddy Elliott

I ddathlu dydd Miwsig Cymru mae’r artist newydd Maddy Elliott wedi rhyddhau ei sengl newydd. 

‘Adnabod Ti’ ydy enw’r trac newydd ganddi sydd allan ar label Recordiau Aran. 

Ffrwydrodd Maddy i amlygrwydd ym mis Medi llynedd wrth iddi ryddhau ei sengl ddwbl ’Torra Fi’ a ‘Gwahanol’ ac fe gafodd y traciau groeso cynnes.

Wedi’i lleoli yn Llanfair Talhaiarn ger Abergele, daeth ei chynnyrch cyntaf yn fuan ar ôl iddi gwblhau blwyddyn o weithio yn y diwydiant cerddoriaeth fel rhan o’i gradd gerdd ym Mhrifysgol Efrog.

Mae arddull y sengl newydd yma’n dangos dylanwad roc annibynnol, yn llawn gitars yn seinio fel clychau. Yn eu cefnogi mae offerynnau pres a drymiau sy’n gyrru’r rhythm yn bendant, ac yn gyson.

Yn dechrau’n dywyll mae’r gân yn tyfu i uchafbwynt nerthol dramatig, pryd mae llais Maddie.

yn debyg iawn i Kate Bush yn ei hanterth. 

Yna mae’r awyrgylch yn newid yn sydyn gyda’r drymiau bron yn diflannu a’r offerynnau yn atsain llinellau byrfyfyr y llais. Mae hwnnw’n arwain i ddiweddglo pwerus gyda’r drymiau yn ail ymuno a harmonïau hyfryd yn ailadrodd y teimladau o ansicrwydd sy’n destun i ‘Adnabod ti’.