Wrth iddynt baratoi i ryddhau eu halbwm newydd, mae’r band roc o Gaerdydd, Breichiau Hir, wedi gollwng eu sengl ddiweddaraf i gynnig blas.
Enw’r trac newydd ganddynt ydy ‘Paid Trio’ ac mae allan yn ddigidol ar yr holl lwyfannau arferol.
I gyd-fynd â’r sengl mae fideo hefyd ar gyfer y trac wedi’i gyhoeddi ar lwyfannau digidol Lŵp, S4C.
Gig lansio a thaith yn cefnogi GLC
Mae’r trac newydd am ailddyfeisio, am adnabod newid yn eich hun gan unai groesawu hyn, neu ei rwygo’n ddarnau a dechrau eto.
Dyma’r trac diweddaraf i lanio oddi-ar ail albwm Breichiau Hir, ‘Y Dwylo Uwchben’, fydd yn cael ei ryddhau ar 11 Ebrill eleni ar label Halen Records.
Mae ‘Paid Trio’ yn ddilyniant i’r sengl flaenorol, ‘Cuddio Tu Ôl y Llen’ a ryddhawyd yn gynharach yn y flwyddyn.
Mae’r band yn cynllunio sioe lansio arbennig ar gyfer yr albwm a fydd yn cael ei gynnal yng Nglwb Ifor Bach, Caerdydd ar 17 Ebrill, ac maen nhw hefyd wedi datgelu y byddan nhw’n cefnogi’r grŵp enwog o Gasnewydd, Goldie Lookin Chain, ar eu taith o’r DU dros yr hydref eleni.
‘Moyn bod fel Rheinallt H Rowlands
“Dwi wedi’i chael hi’n anodd i ysgrifennu geiriau ar gyfer yr albwm, mae fel arfer yn rywbeth sydd jyst yn llifo allan ohona’i” meddai Steffan Dafydd, ffryntman Breichaiu Hir, wrth drafod y sengl newydd.
“Pan oedd gweddill y band yn y stiwdio’n recordio eu rhannau hwy, ro’n i’n ceisio gwthio cymaint a phosib o ystyr allan o’r ysgrifen oedd gen i ar ddarnau di-drefn bapur er mwyn cael rhywbeth oedd yn gwneud sens.”
Yn y diwedd, geiriau’r awdur a nofelydd enwog Charles Bukowski roddodd yr ysbrydoliaeth i Steffan ar gyfer geiriau’r trac.
“Nes i ddigwydd dod ar draws erthygl am broses ysgrifennu Charles Bukowski a chyngor i artistiaid. Yn syml, ei gyngor oedd ‘Paid Trio’. Sef y gwrthwyneb i’r hyn ro’n i wedi bod yn ei wneud.
“Mae’r geiriau ‘Don’t Try’ hefyd wedi’u hysgrifennu ar ei garreg bedd, ynghyd â llun o focsiwr, sef o ble mae’r delweddau ar gyfer y fideo cerddoriaeth wedi dod. Unwaith nes i stopio trio, nath y gweddill lifo allan ohona’i.”
Mae cyfeiriad at Bukowski hefyd ar drac olaf ond un yr albwm newydd, sef ‘Tyllau Llygad’, sydd ag ystyr dwbl: “Dwi’ moyn bod fel Charles Bukowski, darn o waith oedd o flaen ei hoes hi” ydy’r geiriau.
Daw hanner cyntaf y geiriau hyn o eiriau’r gân gan yr artist Cymraeg Rheinallt H Rowlands, a ryddhawyd ym 1996.
“Enw’r albwm ydy ‘Charles Bukowski’ ac mae’n un o fy hoff recordiau” meddai Steffan Dafydd.
“Yr hyn dwi’n dweud yn y bon ydy mod i eisiau creu rhywbeth cystal ag albwm oesol Rheinallt H Rowlands.”
‘Y Dwylo Uwchben’ fydd casgliad cyntaf y chwechawd o Gaerdydd ers pedair blynedd, gan ddilyn eu halbwm cyntaf, ‘Hir Oes I’r Cof’, a enwebwyd ar gyfer y Wobr Gerddoriaeth Gymreig yn 2021.
Dyddiadau byw Breichiau Hir:
16.03.25 – CWRW, Caerfyrddin
10.04.25 – The Old England, Bryste
17.04.25 – Clwb Ifor Bach, Caerdydd (album launch show)
05.09.25 – Academy 2, Manceinion *
06.09.25 – Brewery Arts (Malt Room), Kendal *
10.10.25 – Metronome, Nottingham *
11.10.25 – 45 Live, Kidderminster *
18.10.25 – Cheese & Grain, Frome *
24.10.25 – Electric Ballroom, Llundain *
25.10.25 – Corn Exchange, Ipswich *
07.11.25 – Sub89, Reading *
08.11.25 – Engine Rooms, Southampton *
*gigs yn cefnogi Goldie Lookin’ Chain
Dyma’r fideo ar gyfer ‘Paid Trio’: