Mae Gaff, sef enw perfformio’r cerddor profiadol Alun Gaffey, wedi rhyddhau ei sengl newydd – ‘Tomos Alun’ ydy enw’r trac diweddaraf ganddo sydd allan ar label Recordiau Côsh.
Mae Alun Gaffey yn gyfarwydd fel aelod o’r bandiau Pwsi Meri Mew a Radio Luxemburg / Race Horses yn y gorffennol, gan hefyd ryddhau dau albwm unigol dan ei enw llawn yn 2016 a 2020. Llynedd fe ddychwelodd dan yr enw Gaff gan ryddhau’r albwm ‘Escapism’ ym mis Rhagfyr.
“Ddoth y gân ’ma i mi pan o’n i fyny’n hwyr efo fy mab un noson” eglura Gaff.
“Mewn gwirionedd, does ’na’m geiriau sy’n gallu esbonio faint mae o a’i chwaer wedi gwella fy mywyd i, ond dyma ymgais beth bynnag. Ella fod hynny’n sentimental neu’n soppy neu beth bynnag ond dwi’m yn poeni!
“O ran y miwsig dwi’n meddwl fod o’n power-pop eitha cyffrous. Dwi’n eitha siŵr fod y beat wedi ei ysbrydoli gan ganeuon fel ‘In For The Kill’ gan La Roux, ‘Shake It Off’ gan Taylor Swift ac ‘I’m Still Standing’ gan Elton John.
“Dwi’n chwarae popeth ar y trac oni bai am y dryms (Gruff Elidir Owen), y sax (Joe Northwood) a’r llinynnau (Gwenno Roberts). Cyffrous iawn i gael hon allan fel sengl mor fuan ar ôl rhyddhau albwm. Mae gen i grŵp newydd ac yn chwarae gigs ar hyn o bryd – felly’n brysur unwaith eto ac yn teimlo’n dda am y peth.”
Roedd Gaff yn perfformio gig yn Llofft, Felinheli nos Sadwrn diwethaf gyda chefnogaeth gan Tokomololo a DJ Rhys Spikes. Bydd cyfle arall i’w weld yn fyw yn Yr Heliwr, Nefyn ar 5 Ebrill.