Mae’r siwpyr grŵp, Ciwb, wedi rhyddhau eu halbwm newydd.
Gad Mi Ddod Mewn ydy enw’r record hir ddiweddaraf gan y band ac mae allan ar label Sain.
Ciwb ydy Elis Derby, Gethin Griffiths, Marged Gwenllian a Carwyn Williams ac fe ddaeth y pedwarad ynghyd yn wreiddiol yn ystod y cyfnod clo i greu fersiynau newydd o ganeuon cyfarwydd dros y sgrin gan ddefnyddio app Acapela
Penllanw’r cyfnod hwnnw oedd rhyddhau eu halbwm cyntaf, ‘Wyt Ti’n Meddwl Bod o Wedi Darfod?’, yn haf 2021 oedd yn cynnwys deg fersiwn newydd o ganeuon cyfarwydd o ôl gatalog helaeth label recordiau Sain, gan gyd-weithio gyda 9 o artistiaid gwahanol eraill ar y recordiadau.
Yr un ydy’r fformiwla ar y casgliad newydd gyda’r band yn cydweithio eto gyda nifer o gantorion amlwg y sîn gerddoriaeth yng Nghymru i greu cyfyrs newydd sbon o ganeuon o archif label Sain.
Daw’r albwm ar ôl cyhoeddi dwy sengl fel tameidiau i aros pryd sef ‘Diwedd y Gân’, a ryddhawyd fis Ebrill ac sy’n cynnwys Elidyr Glyn fel gwestai arbennig, ac yna ‘Pan fo Cyrff yn Cwrdd’, yn wreiddiol gan Y Trwynau Coch, gydag Eban Elwy o’r band TewTewTennau yn canu.
Yn ogystal â’r ddau westai ar y senglau, mae’r albwm newydd yn cynnwys rhestr arall o enwau cyffrous, sef Ifan Davies, Buddug, Magi, Ifan Pritchard, Hollie Singer, Lisa Jên a Griff Lynch.
Gyda fersiynau newydd o ganeuon artistiaid fel Sidan, Steve Eaves, Y Cyrff, Llwybr Cyhoeddus, Mojo, Angylion Stanli, Heather Jones ac Edward H, mae’n gymysgfa o gerddoriaeth bop, roc meddal, a seicadelia, ac yn fwy eang o ran arddulliau cerddorol na’r albwm cyntaf, a phob cyfyr yn cael triniaeth unigryw gan amlygu elfennau gwreiddiol y caneuon ond gyda talp enfawr o wreiddioldeb cerddorol Ciwb.
Bydd lansiad swyddogol yr albwm yn Neuadd y Farchnad, Caernarfon, ar 12 Gorffennaf, fel rhan o Gŵyl Arall, lle bydd Ciwb yn gwneud perfformiad arbennig gyda cherddorion gwadd ac elfennau gweledol a ffilm hefyd yn rhan o’r digwyddiad.
Bydd hwn yn gyfle i glywed setiau byw gan artistiaid gwadd yr albwm a pherfformiad arbennig o ganeuon y record gan Ciwb a’u cyfeillion. Bydd hefyd cyfle hefyd i glywed y band ar Lwyfan y Maes, Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam, ar ddydd Sadwrn, 1 Awst.
Dyma fersiwn Ciwb o’r ardderchog ‘Ar Goll’ gydag Ifan Davies o Sŵnami yn canu: