Candelas yn ôl gyda’r ‘Gyllell Lemon’

Hir yw pob ymaros, ac wedi cyfnod sy’n teimlo’n hir iawn, mae un o fandiau mwyaf Cymru, Candelas wedi rhyddhau eu sengl ddiweddaraf. 

‘Y Gyllell Lemon’ ydy enw’r sengl newydd sydd allan ers dydd Gwener diwethaf, 14 Chwefror ar label I KA CHING.

Cân am ddau ffrind mewn sefyllfaoedd tebyg mewn bywyd yn cael gwyliau annisgwyl gyda’i gilydd o amgylch Gogledd Cymru yw ‘Y Gyllell Lemon’. 

“O aros mewn pabell yn Aberdaron i noson yn yr Oakley Arms, i brofi caffis gorau Gwynedd bob amser cinio, roedd yn wyliau bythgofiadwy”, medd Osian Williams, prif leisydd y band. 

“Mae’r gân yn adlewyrchu’r trip drwy fynd o falu awyr llwyr yn syth i eiriau fwy difrifol wrth i r’un o’r ddau ffrind fod eisiau’r trip ddod i ben.”

“Mae yna lot o nostalgia yn y gân hefyd,” medd Osian ac mae hynny i’w glywed yn sŵn mwy melodic y gân o’i gymharu â’r anthemau trymion. 

“Ond efallai fod hyn i’w ddisgwyl os oedd y trip yn llawn Sobin a’r Smaeliaid, chwilio am leoliadau C’mon Midffîld yn Llanrug, yfed hefo môr ladron Aberdaron tan oriau mân y bore, methu deall sut fod y wlad ’ma’n cael ei rhedeg gan bobl na neith fyth ein dallt ni a meddwi trafod pwy nath losgi tai ha’… Meddyliwch, ma’ rhywun yn rwle’n gwbod…”

Mae fideo i gyd fynd â’r sengl yn cael ei gyhoeddi ar lwyfannau Lŵp, S4C ers 14 Chwefror hefyd.