Knuckle MC yn rhyddhau’r trac ‘Derbyn Cyfrifoldeb’ 

Mae Knuckle MC wedi rhyddhau ei ail sengl ar label Recordiau Côsh. 

‘Derbyn Cyfrifoldeb’ ydy enw’r trac newydd gan yr artist hip-hop cymharol newydd i’r sin. 

Knuckle MC ydy prosiect diweddaraf Dewi Foulkes, oedd yn arfer bod yn fasydd i’r grŵp chwedlonol, Derwyddon Dr Gonzo, ac mae’n ddilyniant i’r sengl ‘Anadlu’ a ryddhawyd ym mis Mehefin llynedd

Newyddion pellach ydy bod Knuckle MC yn edrych ymlaen at ddechrau gigio yn 2025, ac mae’n debyg ei fod hefyd benderfynol o ryddhau corff o waith hip hop graenus yn y Gymraeg.

“Neshi ’sgwennu’r gân yma pan oni’n flin” eglura Dewi. 

“I drio gadael i bobl ddeall bod ’na greulondeb mewn peidio derbyn cyfrifoldeb. Gwrandwch arna fo’n uchel tra dachi’n llechio ‘wbath drw’ ffenest!”