Mae fideo newydd ar gyfer sengl ddiweddaraf Buddug wedi’i gyhoeddi ar lwyfannau digidol Lwp, S4C.
Fideo o berfformiad acwstig o’r trac ‘Disgyn’ ydy hwn.
Rhyddhawyd ‘Disgyn’ fel sengl ar label Recordiau Côsh ar 21 Chwefror.
Buddug hefyd enillodd y wobr am y Fideo Cerddoriaeth Gorau yng Ngwobrau’r Selar wythnos diwethaf gydag ‘Unfan’.
Llun: Buddug yn derbyn ei gwobr am Fideo Cerddoriaeth Gorau 2024 gan Jac Northfield yng Ngwobrau’r Selar (Celf Calon)