Cyhoeddi rhifyn Gwanwyn 2025 Y Selar

Oes wir, mae rhifyn newydd sbon danlli o’r Selar allan nawr ac yn cael ei ddosbarthu i’r mannau arferol.

Yr ardderchog Gwenno Morgan sydd ar glawr rhifyn Gwanwyn 2025 o’r Selar ac mae Elain Gwynedd wedi bod yn sgwrsio gyda hi am ei halbwm cyntaf, gwyw.

Mae’r rhifyn newydd hefyd yn cynnwys cyfweliad arbennig gyda Tristwch y Fenywod – Efan Owen fu’n holi’r triawd gothig-electronig o Leeds.

Ceir hefyd darn Tynnu Sylw gan Lois Gwenllian yn trafod albyms diweddar Alffa ac Yws Gwynedd wrth iddyn nhw anelu at gyrraedd cynulleidfaoedd ehangach, ac mae Angharad Rhiannon yn cynnal Sgwrs Sydyn gyda Tai Haf Heb Drigolyn.

Mae llwyth o gyfrannwyr newydd i’r rhifyn diweddaraf, ac mae hefyd ambell eitem newydd gan gynnwys ‘Trac Sain Dy Nofel’ gyda’r awdur Dyfed Edwards, ac adran werin newydd Taro Tant sy’n rhoi sylw y tro hwn i Gwilym Bowen Rhys a Cynefin.

Un peth sy’n llai newydd, ydy’r traddodiad blynyddol o gyhoddi holl restrau byr ac enillwyr Gwobrau’r Selar, ynghyd â’r rhestr ’10 Uchaf’ albyms y flwyddyn a fu – mynwch gopi i weld pwy oedd ym mha safle!

Gallwch gael gafael mewn copïau print yn mannau arferol, a bydd hefyd yn glanio trwy ddrws aelodau premiwm Clwb Selar yn fuan iawn. Gallwch hefyd ddarllen y fersiwn digidol isod wrth gwrs.

 

Selar gwanwyn 2025 ARLEIN