Cofio Geraint Jarman

Anodd gwybod lle i ddechrau wrth ysgrifennu teyrnged i Geraint Jarman, cymaint oedd ei gyfraniad i’r sin a diwydiant cerddoriaeth Gymraeg.

Ydy hi’n ormod i ddweud na fyddai’r sin yn ymdebygu i’r hyn rydyn ni’n ei adnabod heddiw oni bai amdano? Dwi ddim yn credu ei bod hi. 

Dyma pam y penderfynodd Y Selar i roi ein Gwobr Cyfraniad Arbennig iddo yn 2017 – dim ond yr ail i dderbyn y wobr gan ddilyn y band chwedlonol Datblygu y flwyddyn flaenorol. 

Pan gyrhaeddodd y newyddion bod Geraint wedi’n gadael ni wythnos diwethaf, roedd yn deimlad o siom a thristwch mawr, ac roedd yn anodd ffeindio geiriau oedd yn cyfleu’r golled i ni fel diwydiant cerddoriaeth fach a chlos. 

Mae llawer o bobl all drafod ei gyfraniad fel actor, fel bardd, fel awdur ac fel cynhyrchydd teledu, ond dyma ymdrech i grynhoi ei gyfraniad cerddorol dros bum degawd. 

 

O ddychan i gerddor o ddifrif

Er iddo gael ei eni yn Ninbych, a’i fagu yn Rhuthun, mae’n deg dweud bod Geraint Jarman yn cael ei gysylltu’n bennaf â Chaerdydd ar ôl symud yno’n ifanc. 

Ar ôl dechrau ei yrfa fel bardd yn y 1960au, daeth i’r amlwg yn gyntaf fel cerddor fel rhan o’r triawd tafod ym moch, Y Bara Menyn, gyda Meic Stevens a Heather Jones. Ffurfiodd y grŵp ym 1969 fel cyfle i gael ychydig o hwyl ac i i ddychanu rhai o fandiau Cymraeg ‘noson lawen’ y cyfnod, ond fe ryddhawyd dau EP ar label Recordiau Wren ac roedden nhw’n weddol boblogaidd hefyd. 

Roedd Meic Stevens a Heather Jones eisoes yn adnabyddus fel cerddorion unigol wrth gwrs, a chyn hir roedd Jarman hefyd yn dechrau gwneud ei farc fel cerddor. Ei albwm unigol cyntaf oedd Gobaith Mawr y Ganrif, a ryddhawyd ar label Sain ym 1976 gan gyflwyno cyfuniad newydd o gerddoriaeth reggae, roc a gwerin i’r sin Gymraeg. 

Dyma ddechrau rhediad anhygoel o ryddhau 8 albwm dros 9 blynedd ar label Sain, heb sôn am record hir Cerddorfa Wag a ryddhawyd gan S4C fel trac sain ar gyfer y gyfres deledu o’r un enw. 

Tacsi i’r Tywyllwch oedd yr ail o’r recordiau hir ardderchog yma a ryddhawyd ym 1977 – mae’n cynnwys rhai o draciau mwyaf cofiadwy Jarman fel ‘Y Dyn Oedd Yn Hoffi Pornograffi’, ‘Bourgeois Roc’ ac ‘Ambiwlans’ a ddefnyddiwyd yn ddiweddarach fel prif drac y ffilm wych ‘Yr Alcoholig Llon’ oedd yn serennu Dafydd Hywel. Mae’r albwm hefyd yn cynnwys ‘Pan Ddaw’r Dydd’, oedd eisoes wedi ennill Cân i Gymru ym 1972 gyda Heather Jones yn canu, ond gellir dadlau bod fersiwn Jarman ei hun hyd yn oed yn well. 

Dilynodd Hen Wlad Fy Nhadau ym 1978, Gwesty Cymru ym 1979, Fflamau’r Ddraig a Cerddorfa Wag ym 1980, Diwrnod i’r Brenin ym 1981, Macsen ym 1983 ac Enka ym 1984. Mae pob un o’r rhain yn sefyll ar eu traed eu hunain fel campweithiau, ond fel cyfres o recordiau maen nhw’n gasgliad syfrdanol. 

 

Fideo 9 ac adfywiad cerddorol

Roedd Macsen ac Enka yn recordiau i gyd-fynd â ffilmiau, ac roedd diddordeb Geraint Jarman yn y diwydiant hwnnw’n amlwg. Canlyniad hyn oedd ffurfio cwmni cynhyrchu Criw Byw gydag ​​Andy Brice, Gethin Scourfield a Dafydd Rhys ym 1988 gan fynd ati i gynhyrchu’r gyfres deledu gerddoriaeth arloesol Fideo 9. Gydag Eddie Ladd yn cyflwyno’r cyfresi cyntaf, a Daniel Glyn yn cyflwyno’r olaf, rhwng 1988 a 1992 fe roddodd Fideo 9 lwyfan hanfodol i gerddoriaeth gyfoes

Tlws pêl-droed
Cwpan Jarman

Gymraeg ar S4C ac mae llawer sy’n cofio’r rhaglen yn dal i hiraethu amdani. Yn sicr, nid cyd-ddigwyddiad yw’r ffaith i nifer o gerddorion a gafodd sylw ar y gyfres fynd ati i brofi llwyddiant rhyngwladol ar ddiwedd y 1990au. 

Wedi 8 blynedd o egwyl, daeth mwy o gerddoriaeth newydd gan Geraint ym 1992 gyda’r albwm Rhiniog ar label Ankst. Doedd dim amheuaeth ei fod wedi colli unrhyw lewyrch cerddorol, ac mae hon yn chwip o record 14 trac sy’n cynnwys ‘Kenny Dalglish’, ‘Hei Mr DJ’, ‘Tracsuit Gwyrdd’, ‘Sigla’r Botel’, ‘Strydoedd Cul Pontcanna’ ac ‘Atgof Fel Angor’ a roddodd enw ar gyfer y bocs-set gwych o’i albyms a ryddhawyd gan Sain yn 2008.  

Dilynwyd hyn gan ‘Y Ceubal Y Crossbar a’r Cwango ar Ankstmusik ym 1994 ac yna ‘Eilydd na Ddefnyddiwyd / Sub Not Used’ ym 1998 ar Sain, oedd yn cynnwys fersiwn reggae cofiadwy o ‘Pentref Wrth y Môr’ gan Gorkys. Roedd teitlau’r albyms hyn yn awgrym pellach o ddiddordeb mawr Geraint Jarman mewn pêl-droed, sef y rheswm y penderfynwyd i gyflwyno ‘Cwpan Jarman’ i ennillwyr twrnament pêl-droed a gynhaliwyd ym mlynyddoedd cyntaf Gwobrau’r Selar.

 

Deffroad o’r newydd

Cafwyd saib fach arall o 8 blynedd rhwng albyms wedyn, er i’r EP, Môrladron, gael ei gyhoeddi ar Sain yn 2002. Roedd Sgaffaldiau Bambŵ yn 2006 yn gasgliad o ganeuon a recordiwyd fel sesiynau, a thraciau oedd wedi ymddangos ar gasgliadau aml-gyfrannog. 

Yna dechreuodd adfywiad go iawn a welodd Geraint yn rhyddhau pump albwm rhwng 2011 a 2020, gan ddechrau gyda Brecwast Astronot. Roedd yn amlwg o’r albwm hwn mai nid rhyw ha’ bach Mihangel yn ei yrfa cerddorol oedd hwn, cystal oedd safon y traciau. Daeth cadarnhad o hynny dair blynedd yn ddiweddarach gyda’r ardderchog Dwyn yr Hogyn Nôl sy’n cynnwys traciau cofiadwy ‘Hiraeth am Kylie’, ‘Be Nei Di Janis?’, ‘Gad Mi Gysgu’n y Gitar Heno’ a’r teitl drac gwych, ‘Dwyn yr Hogyn Nôl’. 

Tawel yw’r Tymor oedd y trydydd albwm o’r ddegawd a welodd Jarman yn cyd-weithio’n agos gyda Gareth Bonello ar record wedi’i stripio lawr yn llwyr, gan gynnig dimensiwn arall i’w gerddoriaeth. Dyma’r record a welodd Geraint Jarman yn ymddangos ar glawr Y Selar, gyda chyfweliad Owain Gruffudd â’r dyn ei hun, ynghyd â photoshoot eiconig gan Betsan Hâf Evans. Mae’r llun clawr ei hun yn gorlifo o cŵl. 

Gwobr Cyfraniad Arbennig

A hithau bellach yn 50 mlynedd ers rhyddhau ei albwm cyntaf, roedd Geraint Jarman yn ddewis amlwg i’r Selar ar gyfer ein Gwobr Cyfraniad Arbennig newydd. Roedd yn bleser pur, ac yn gwireddu breuddwyd i ni allu llwyfannu gig anhygoel gyda’r cerddor i nodi’r achlysur ym mis Chwefror 2017, a hynny mewn lleoliad eiconig yn Neuadd Pantycelyn, Aberystwyth cyn i’r adeilad gael ei adnewyddu. 

“Roedd dewis ennill y wobr Cyfraniad Arbennig yn weddol rhwydd eleni gan bod 2016 yn nodi 40 mlynedd ers i Geraint Jarman ryddhau ei albwm cyntaf” meddai trefnydd Gwobrau’r Selar, Owain Schiavone, ar y pryd. 

“Does dim amheuaeth bod cyfraniad Jarman i’r sin gerddoriaeth yng Nghymru yn un enfawr, ac mae’r cyfraniad yn ymestyn i’w bumed degawd bellach gyda rhyddhau’r ardderchog ‘Tawel yw’r Tymor’ ar label Ankst.”

“Mae’r albwm diweddaraf yn wahanol i’w waith blaenorol, ac yn acwstig ei naws, a bydd y gig ym Mhantycelyn yn adlewyrchu hynny, er bydd cyfle i glywed ambell glasur o’i ôl-gatalog hefyd.”

Cafwyd sgwrs arbennig fel rhan o benwythnos y Gwobrau hefyd gyda’i gyfaill agos, Emyr Ankst, yn holi Geraint yn Y Drwm, Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Gallwch wylio eitem arbennig am hyn ar sianel YouTube Ochr 1:

Roedd mwy i ddod cofiwch, a glaniodd yr albwm Cariad Cwantwm yn 2018 gan symud yn ôl i’w gariad at reggae. Ymwelodd yr Eisteddfod Genedlaethol â Bae Caerdydd y flwyddyn honno, ac fe gafwyd gig bythgofiadwy gyda Jarman yng Nghanolfan Y Mileniwm gyda Cherddorfa’r Welsh Pops. Ddwy flynedd yn ddiweddarach, yn 2020, daeth ei albwm diwethaf sef y casgliad o fersiynau dub o’i albwm blaenorol gan yr enw Cwantwm Dub, gan weithio gyda’r cynhyrchydd Krissie Jenkins. 

Mae llawer iawn o bobl oedd yn adnabod Geraint Jarman yn llawer gwell na ni wedi talu teyrngedau iddo dros yr wythnos ddiwethaf. O ran Y Selar, digon yw dweud ei bod wedi bod yn bleser, ac yn anrhydedd gallu ei gynnwys rhwng cloriau’r cylchgrawn, gallu llwyfannu gig iddo, a gallu cyflwyno ein Gwobr Cyfraniad Arbennig iddo. Un o gewri mwyaf cerddoriaeth Gymraeg. 

Lluniau: Betsan Haf Evans (Celf Calon) – photoshoot Y Selar 2016