Mae un o artistiaid ifanc mwyaf cyffrous Cymru, Buddug, wedi rhyddhau ei sengl ddiweddaraf.
‘Disgyn’ ydy enw’r trac newydd gan Buddug ac mae allan ar label Recordiau Côsh ac sy’n siŵr o ychwanegu at y cyffro sydd ynglŷn âr cerddor.
Mae’r cynnwrf o amgylch Buddug a’i cherddoriaeth wedi bod yn gyson dros y ddwy flynedd diwethaf a bydd hynny’n siŵr o gynyddu ymhellach eto gyda’r newyddion fod yr artist ifanc o Frynrefail yn brysur yn y stiwdio ar hyn o bryd yn recordio’i halbwm gyntaf.
Ffrwydrodd Buddug i amlygrwydd gyda’r sengl ‘Dal Dig’ a ryddhawyd yn Nhachwedd 2023, ac mae wedi creu argraff bellach gyda’r senglau dilynol ‘Two Way Street’ ac yna ‘Unfan’ a ryddhawyd ym mis Medi llynedd.
A hithau yn nwylo’r cynhyrchydd profiadol, Rich James Roberts yn Ferlas, Penrhyndeudraeth, mae talent Buddug yn ffynnu, gyda’r gerddoriaeth a grëir yn cynnwys pob dim o faledi dwys i ganeuon pop gyda geiriau llai arwynebol na’r mwyafrif.
Bydd nifer o senglau oddi ar yr albwm yn cael eu rhyddhau dros y misoedd nesaf yn ôl Recordiau Côsh, cyn i’r albwm cyfan gael ei ryddhau ar ddechrau’r haf.
Yn ogystal â bod yn rhan o brosiectau datblygu artistiaid fel Forté a Gorwelion, mae Buddug hefyd wedi bod yn perfformio’n gyson dros y misoedd diwethaf, gyda pherfformiadau yn Tafwyl ac Eisteddfod 2024 yn cyffroi cynulleidfaoedd gyda’r hyn sydd i ddod.
Mae Buddug hefyd wedi bod yn cydweithio gyda rhai o artistiaid mwyaf adnabyddus y sin, yn canu’n fyw yn ddiweddar gydag Yws Gwynedd ac Al Lewis. Bydd yn perfformio gyda’i band yn gig Gwobrau’r Selar yn Aberystwyth ar 1 Mawrth, ac mae wedi ei chynnwys ar sawl rhestr fer wahanol eleni.
Wedi iddi gymryd blwyddyn allan o’i haddysg i ddilyn ei breuddwyd o ysgrifennu a pherfformio, mae 2025 yn argoeli i fod yn un cofiadwy iawn i Buddug.
Dyma ‘Disgyn’: