Rhyddhau sengl gyntaf Blodau Papur ers 2022

‘Dŵr’ ydy enw’r sengl newydd sydd wedi glanio gan Blodau Papur. 

Wedi cyfnod o seibiant, mae’r ‘siwpyr-grŵp’ sy’n cael eu harwain gan Alys Williams ac Osian Williams yn ôl gyda’r trac newydd. ‘Dŵr’ yw sengl gyntaf y band ers rhyddhau ‘Morfydd’ yn 2022 ar gasgliad amlgyfranog eu label, I KA CHING, a chyn hynny, eu halbwm yn 2019.

Er bod albwm cyntaf ‘Blodau Papur’ yn gwyro at sŵn ffync a’r felan, mae ‘Dŵr’, heb os, yn dwyn dylanwad gan bopeth o gyfnod di-boen y 90au. 

O’r llinell bas, y gitâr llawn gyriant, i lwybr melodi llais Alys Williams. Mae hyd yn oed yn trafod yr arfer cyson pan oedd rhai aelodau’r band yn eu harddegau yn trochi yn yr afon hefo’u ffrindiau a pha mor gyffrous oedd cyfnodau gwyliau’r haf erstalwm, ymhell cyn i unrhyw sôn am ‘nofio gwyllt’ stwffio ei hun ar hyd ein Instagrams.

Gwnaed clawr trawiadol y sengl gan Cat Williams, merch Alys ac mae’r cysodi gan Dafydd Owain. 

Roedd ‘Dŵr’ yn Drac yr Wythnos ar BBC Radio Cymru wythnos diwetha=f ac mae ar gael ar yr holl lwyfannau digidol arferol.