Mae Band Pres Llareggub wedi rhyddhau eu sengl ddiweddaraf, sydd fel nifer o’u traciau blaenorol, yn cynnwys gwestai arbennig.
Tara Bandito ydy’r llais cyfarwydd sy’n ymddangos ar ‘Trw Nos’.
Mae Tara Bandito yn aml wedi ymddangos ar y llwyfan gyda Band Pres Llareggub ac mae wedi cyfrannu i gwpwl o draciau’r band dros y blynyddoedd, ond y tro hwn mae’r gantores yn cyd-ysgrifennu cân wreiddiol gyda’r band am y tro cyntaf!
Tara Bandito ydy brenhines bop newydd Cymru – pelen o egni a pherfformwraig heb ei hail, ac mae modd clywed y ffrwydrad egni yma ar y sengl newydd.
Mae hefyd fideo gerddoriaeth i gyd-fynd gyda’r gân lle mae Tara yn serennu, ac yn cyfarwyddo, mewn fideo ‘one-shot’ a saethwyd yn nhŷ crand Portmeirion gyda thîm Trigger Happy Creative. Mae modd gweld y fideo ar gyfryngau ar-lein Lŵp, S4C.
Mae’r gân yn fachog ac yn egnïol – yn gymysgedd benysgafn o Kool and The Gang, Eminem a’r Hot 8 Brass Band. Mae eleni yn garreg filltir i Band Pres Llareggub, gyda’r band yn dathlu deg mlynedd ers eu gig gyntaf yn Nhafarn y Greeks ym Mangor Uchaf. Gobaith y band eleni yw rhyddhau albwm newydd a thaith i gefnogi’r albwm ar hyd a lled Cymru – sef pumed albwm y band ar ôl ‘Mwng’ (2015), ‘Kurn’ (2016), ‘Llareggub’ (2017) a ‘Pwy sy’n Galw?’ (2021).
Mae’r band hefyd yn edrych ymlaen at haf prysur o wyliau cerddorol, gan gynnwys trip i Ottawa i chwarae’r ‘North American Festival of Wales’ fis Awst.
Dyma’r fideo: