Yr Anghysur – band sy’n caru eu Milltir Sgwâr
Mae band newydd sydd a’u gwreiddiau’n ddwfn yn Nyffryn Conwy wedi rhyddhau eu trydedd sengl. ‘Milltir Sgwâr’ ydy enw’r sengl ddiweddaraf gan Yr Anghysur – band sy’n cynnwys criw o gerddorion ifanc, ac un fu’n aelod o fand amlwg iawn yn y gorffennol.