Sengl newydd Georgia Ruth yn gollwng

Mae sengl newydd gan Georgia Ruth wedi gollwng ar label Recordiau Bubblewrap, wrth iddi hefyd rannu newyddion am EP fydd allan ar ddiwedd y mis. 

‘Would It Kill You To Ask?’ ydy enw’r trac newydd sydd allan ers dydd Gwener 7 Mawrth, ac sy’n rhagflas o’r EP fydd yn dilyn ganddi ar 28 Mawrth. 

Rhyddhawyd albwm diweddaraf y cerddor o Aberystwyth, ‘Cool Head’, llynedd a chael croeso mawr. Enillodd Georgia ‘Wobr 2024’ Gwobrau’r Selar wythnos diwethaf, ac roedd hefyd wedi cyrraedd y rhestr fer yn y categori ‘Artist Unigol Gorau’. 

Enw’r EP newydd ydy ‘Cooler Head’ ac mae’n cynnwys pedwar fersiwn piano arbennig o’r traciau ‘Driving Dreams’, ‘Bright Morning Stars’, ‘Dim’ ac ‘Would It Kill You To Ask?’ sy’n cael ei ryddhau fel sengl. 

“Dyma gân am sut mae perthynas a chyfeillgarwch plentyndod yn gallu newid gydag amser” eglura Georgia.  

“Wedi dychwelyd i’n nhref enedigol i fyw, mae’n drist sylwi ar sut all prysurdeb bywyd arwain at newid mewn perthynas gyda’r rheiny rydych yn eu hadnabod orau. Wrth fyw yn y gorffennol, mae bywyd yn mynd yn gyflymach fyth ond dwi’n poeni mai’r gorffennol yw’r unig beth sydd gennym ni. 

“Mae fersiwn piano’r gân hon wedi fy ngalluogi i ddod o hyd i rywbeth newydd yn y geiriau. Mae ganddi obaith nad oedd yn bodoli’n amlwg iawn ar y trac gwreiddiol oddi ar yr albwm.”

Recordiwyd yr EP yn Stiwdio Sain, Llandwrog a pheirianwyd gan Aled Wyn Hughes. Daw y gwaith cymysgu a mastro gan Iwan Morgan. 

Mae Georgia hefyd wedi cyhoeddi fideo o berfformiad byw ‘Would It Kill You To Ask?’ ar ei sianel YouTube. 

Bydd yr EP yn cael ei ryddhau’n ddigidol ar 28 Mawrth i gyd-fynd â dathliadau ‘Diwrnod Piano’, a bydd hefyd nifer cyfyngedig o gopïau ar CD, wedi’u llofnodi gan Georgia – mae modd rhag archebu rhain nawr. 

Dyma fideo byw ar gyfer y sengl: