Mae Bitw, sef prosiect unigol y cerddor amryddawn Gruff ab Arwel wedi rhyddhau ei albwm newydd.
‘Gaddo Glaw’ ydy enw’r record hir newydd gan y gŵr sydd wedi bod yn aelod o sawl band yn y gorffennol gan gynnwys Y Niwl ac Eitha Tal Ffranco.
Daw’r albwm i ddilyn y senglau ‘Gaddo Glaw’, ‘Hen Dro’, a ‘Pelydrau’, ac yn ol Gruff mae ‘Gaddo Glaw’, yn un o’r albyms rhataf i gael eu creu yng Nghymru yn y blynyddoedd diwethaf, gyda Gruff yn mynd ati’n ddiwyd i arbed pob ceiniog a thorri pob cornel wrth greu ei gyfanwaith mwyaf llwm hyd yma.
Mae hi’n gaddo glaw trwm iawn ym marn Gruff, rhy drwm i unrhyw ymbarél neu gân bop allu gwneud fawr ddim amdano.
Meddyliwch am beth bynnag ydi’r gwrthwyneb i ’daw eto haul ar fryn’ ac mi fyddwch chi’n weddol agos ati. Ac os oes ’na lygedyn o obaith, fydd hi ddim yn hir tan ddaw rhywun heibio i roi ei fys ynddo.
Bydd yr albwm ar gael yn ddigidol, yn ogystal ag ar feinyl, CD a chasét o safle Bandcamp Bitw.
I ddathlu rhyddhau’r albwm, roedd y ffrydiwr gemau fideo Cymraeg dihafal Emrys Hobo yn ei ffrydio yn ei gyfanrwydd ar nos Iau 29 Hydref.
Roedd cyfle i glywed Emrys yn rhoi ei farn ar y traciau cyn rhoi tro arnynt ei hun mewn sesiwn Clone Hero unigryw ar Twitch ac YouTube.
Dyma’r teitl drac: