Mae Bitw, sef prosiect unigol y cerddor amryddawn Gruff ab Arwel, wedi rhyddhau’r sengl sy’n rhannu enw ei albwm nesaf.
‘Gaddo Glaw’ ydy enw’r sengl sy’n cynnig blas i’r record hir o’r un enw fydd yn cael ei ryddhau ar 30 Hydref eleni ar label Klep Dim Trep.
Mae modd rhag archebu’r albwm ar safle Bandcamp Bitw nawr gyda sawl fersiwn ar gael, gan gynnwys feinyl, cryno ddisg a chaset. Mae hefyd modd archebu ymbarel ‘Gaddo Glaw’, sy’n dod gyda fersiwn digidol yr albwm am ddim.