Mae Georgia Ruth wedi ryddhau sengl ddwbl newydd wrth gyhoeddi manylion ei halbwm diweddaraf.
‘Uncanny Valley’ fydd enw pumed albwm yr artist o Aberystwyth, a bydd yn cael ei ryddhau ar 13 Tachwedd eleni.
Fel blas o’r hyn sydd i ddod, mae Georgia wedi rhyddhau’r traciau ‘Suddenly Suburbia’ a ‘Dal ‘Ma Alma’ fel sengl ddwbl.
Mae ‘Uncanny Valley’ yn record lle mae un o gyfansoddwyr mwyaf unigryw Cymru yn archwilio swbwrbia, bywyd domestig a’r gofod anesmwyth rhwng cysur ac ansefydlogrwydd.
Wrth galon y record mae ‘Suddenly Suburbia’, cân y mae Georgia yn ei disgrifio fel un sydd yn cynnwys “popeth yr oeddwn yn ceisio ei ddweud ar y record hon”.
“Mae’n gymysgedd anhrefnus o gysur a apocalyps, o euogrwydd a hunan-gyfiawnder a chariad” eglura Georgia.
“Mi roeddwn am i’r prif lais adlewyrchu Scott Walker ac mi rydwi wrth fy modd yn canu y llinell ‘and who cares if the rapture comes at noon’.
“Tua’r diwedd mae allweddellau Gruff yn dechrau swnio fel cloch drws. Mae’n sinistr ond dwi yn ei garu. Ac yna mae’r outro yn cynnwys rhai o fy hoff linellau ‘cushioning the blow in suburbia/nowhere left to go’ etc.
“Felly mae yn llwm ond mae tynerwch yna – yn y ddelwedd o brynu piano, melodi y bont”
Recordiwyd y gân ‘Dal ‘Ma Alma’ yn ystod yr un sesiwn recordio ac mae’n datgelu ochr arall i ‘Uncanny Valley’.
“Roedd fy merch Alma yn fach iawn pan gychwynon ni weithio ar ‘Uncanny Valley’” meddai Georgia.
“Fe ddaeth gyda fi i’r holl sesiynau recordio ac roeddwn eisiau ysgrifennu cân iddi.
“Mi roeddwn yn meddwl am yr holl ganeuon mawr ‘rhiant i blentyn’ – fel ‘Forever Young’ gan Bob Dylan – ac yn meddwl lle ar wyneb daear i gychwyn cyfleu popeth yr oeddwn eisiau ei ddweud wrthi. Ac yna un diwrnod, fe glywais fy hun yn dweud ‘fi dal ‘ma, Alma, sai’n mynd i unrhyw le’ wrthi pan oedd hi yn crio.
“Ac fe dyfodd y gân o’r rhigwm bach mewnol hyfryd yna. Roeddwn am i’r band swnio fel band Lou Reed.”
Cynhyrchwyd yr albwm unwaith eto gan Iwan Morgan ac fe’i recordiwyd yn Stiwdio Sain gyda cherddorion yn cynnwys Gruff ab Arwel a Gavin Fitzjohn, cyn cael ei gymysgu gan TJ Allen (Bat For Lashes, Portishead, Anna Calvi). Mae plant Georgia, Owen, Idris ac Alma hefyd yn ymddangos ar y record.
Yn bumed albwm Georgia Ruth, mae ‘Uncanny Valley’ yn dilyn ‘Cool Head’ ac yn barhad o yrfa a gychwynnodd gyda ‘Week of Pines’ â enillodd y Wobr Gerddoriaeth Gymreig.