Cyhoeddi lein-yp llawn Gwobrau’r Selar

Wrth i bleidlais gyhoeddus Gwobrau’r Selar gau, rydyn ni hefyd wedi datgelu lein-yp y gig eleni.

Caeodd y bleidlais ar nos Wener 23 Ionawr gyda channoedd o bobl yn bwrw pleidlais dros y 10 categori agored.

Bydd y rhestrau byr yn cael eu datgelu’n wythnosol ar raglenni BBC Cymru Mirain Iwerydd ac Ifan Davies, bob wythnos nes penwythnos y Gwobrau ar 21 Chwefror.

Datgelwyd wythnos diwethaf mai Mirain Iwerydd fydd hefyd yn cyflwyno Gwobrau’r Selar eleni wrth i’r digwyddiad ddychwelyd i Undeb Myfyrwyr Aberystwyth, sef cartref yr achlysur rhwng 2015 a 2020 pan oedd yn un o uchafbwyntiau’r calendr cerddoriaeth Gymraeg.

Lein-yp llawn

Gyda’r bleidlais yn cau, mae Y Seler hefyd nawr yn gallu datgelu pa artistiaid fydd yn perfformio ar y noson ac mae’r arlwy’n cynnwys amrywiaeth o artistiaid sefydledig a newydd – pob un wedi creu argraff mawr yn ystod 2025 ac wedi bod yn boblogaidd ymysg y pleidleiswyr.

Y prif enwau sy’n perfformio ar y noson ydy Bwncath, un o fandiau mwyaf poblogaidd Cymru ar hyn o bryd, a Buddug, a lwyddodd i gipio dim llai na phedair gwobr Selar llynedd.

Mae tri o fandiau ifanc cyffrous yn eu cefnogi hefyd gan Taran, a gipiodd y wobr am y ‘Record Fer Orau’ yng Ngwobrau’r Selar flwyddyn yn ôl, ac sydd wedi rhyddhau eu halbwm llawn cyntaf, ‘Dan y Cymylau’, yn ystod 2025.

Dau fand ifanc sydd wedi creu argraff fawr sy’n cwblhau arlwy’r llwyfan sef Lafant, a ryddhaodd eu EP ‘Y Fodrwy’ yn ystod 2025, a Blȇr o ardal Caernarfon sydd wedi bod yn gwneud eu marc fel un o fandiau mwyaf addawol y sin.

Bydd Djs ar y noson hefyd, a rhain i’w cyhoeddi maes o law.

Mae’r Selar hefyd wedi cyhoeddi mai Prifysgol Aberystwyth ydy prif noddwr Gwobrau’r Selar eleni, sy’n briodol iawn gan ystyried bod y digwyddiad yn dychwelyd i gampws y Brifysgol.

Dod â dŵr i’r dannedd

“Dwi’n credu’n bod ni wedi llwyddo i greu lein-yp sy’n dod ȃ dŵr i’r dannedd, a dwi’n edrych ymlaen yn fawr am y noson” meddai prif drefnydd Gwobrau’r Selar, Owain Schiavone.

“Mae’n dipyn o fenter i gynnal y digwyddiad mewn lleoliad mawr unwaith eto, ond dwi’n ffyddiog bod y galw yno ac yn ddiolchgar iawn i Brifysgol Aberystwyth am eu cefnogaeth.

“Mae costau cynnal unrhyw ddigwyddiad wedi cynyddu’n aruthrol, ond mae cael cefnogaeth noddwyr yn ein galluogi i ddarparu lein-yp gwych o fandiau gan gadw’r pris tocynnau’n rhesymol.”

Er bod digwyddiad llai wedi’i gynnal llynedd, dyma’r tro cyntaf i’r Gwobrau ddychwelyd ar raddfa debyg i’r hyn ydoedd cyn y cyfnod clo, ac mae felly’n gyfle i bobl a fethodd y digwyddiadau hynny brofi awyrgylch arbennig Gwobrau’r Selar.

“Fel un na chafodd y profiad o fynychu’r Gwobrau cyn y pandemig, mae’n wych gweld y gwobrau yn ôl yn yr Undeb a’r holl dalent a fydd yn cymryd rhan” meddai Nanw Maelor, Llywydd Undeb Myfyrwyr Cymraeg Aberystwyth.

?Mae’r sîn gerddoriaeth Gymraeg yn un gyffrous ar hyn o bryd ac hefyd wrth galon profiadau myfyrwyr Cymraeg Aber. Dw i’n edrych ymlaen yn fawr ac yn siŵr y bydd hi’n noson i’w chofio.”

Mae Prifysgol Aberystwyth hefyd yn falch o weld y digwyddiad yn ôl.

“Rydym ni’n falch iawn o noddi’r gwobrau eleni wrth iddyn nhw ddychwelyd i Gampws Penglais am y tro cyntaf ers y pandemig” meddai Dr Gwawr Taylor, Ysgrifennydd a Chyfarwyddwr y Gymraeg ym Mhrifysgol Aberystwyth.

“Heb os nac oni bai, dros y degawdau, mae cerddoriaeth Gymraeg wedi bod yn allweddol i hyfywedd yr iaith.

“Mae cynnig nawdd i’r achlysur arbennig hwn felly yn gweddu’n berffaith gyda chenhadaeth y Brifysgol i gryfhau Cymru ac i hyrwyddo egni’r Gymraeg.”

Mae tocynnau ar gyfer y gig ar werth nawr am £15.

Tocynnau Gwobrau’r Selar