Mae Neil Rosser yn ôl gyda’i hiwmor cerddorol unigryw ar ei sengl newydd.
‘Dim Dim Saith‘ ydy enw’r trac newydd sydd allan ers 13 Gorffennaf gan y cerddor bytholwyrdd, a sy’n trafod cymeriad enwog iawn.
Dychmygwch eich bod yn galw mewn i dafarn y Black Ox yn Abergwili am beint ac yno wrth y bar mae Mr Bond, James Bond yn mwynhau Martini fach (wedi shiglo, nid wedi troi) ar ôl diwrnod caled.
Mae’n cyfaddef mewn sgwrs ei fod yn meddwl ymddeol o’r busnes ysbio gan ei bod yn swydd i berson ifanc.
A dyma grynhoi’r stori sydd y tu ôl i sengl diweddara Neil Rosser. Stori wir wrth gwrs yn ôl y cerddor.