Lansiad Albwm newydd Candelas

Bydd lansiad arbennig ar gyfer albwm newydd Candelas yn cael ei gynnal yn Y Bala ddiwedd mis Tachwedd.

Mae’r band eisoes wedi rhyddhau cwpl o senglau fel tameidiau i aros pryd nes rhyddhau eu halbwm nesaf, ‘Pop Cymraeg’, gan ddatgelu ar yr un pryd bod yr albwm i lanio ar 20 Tachwedd, a hynny drwy label I KA CHING.

Bydd lansiad y record hir newydd yn Theatr Derek Williams yn Y Balan ar nos Sadwrn 28 Tachwedd, gyda chefnogaeth ar y noson gan TewTewTennau.

Mae modd archebu tocynnau nawr ar gyfer y noson ar wefan y theatr. 

 

Gadael Ymateb