Rhyddhau albwm cyntaf Gwen – ‘UMA’

Wedi cyfres o senglau i aros pryd, mae albwm llawn Gwen wedi’i ryddhau ers dydd Gwener diwethaf, 23 Hydref. 

Gwen ydy prosiect unigol aelod y band Adwaith, Gwenllian Anthony, ac enw ei halbwm cyntaf ydy ‘UMA’. 

Mae’r albwm yn nodi newid sylweddol yn y ffordd mae Anthony yn gweithio. Ar ôl blynyddoedd o ysgrifennu a chreu ar y cyd, yn fwyaf nodedig fel aelod sefydlu Adwaith, ‘UMA’ yw’r corff cyntaf o waith iddi ei ysgrifennu’n gyfan gwbl ar ei phen ei hun.

Rhywbeth i’w ddweud

Wedi’i ysgrifennu wrth deithio ar draws Ewrop yn ystod haf 2025 a’i gwblhau yng Ngorllewin Cymru gyda Tim Lewis (Coil, Spiritualized) a’r cydweithiwr hirhoedlog Steff Pringle, daeth y record yn broses o ailddyfeisio creadigol.

“Roedd y profiad o ysgrifennu a recordio ar fy mhen fy hun yn rhoi lle i mi edrych i mewn a dysgu llawer amdanaf fy hun” meddai Gwenllian. 

“Fe wnaeth i mi gredu fy mod i’n gallu, fy mod i’n greadigol a bod gen i rywbeth i’w ddweud, ac nad oes angen i mi ddibynnu ar bobl eraill er mwyn gwireddu fy ngweledigaeth. Mae popeth sydd ei angen arna i o fewn i mi.

“Roedd yna adegau o hunan-amheuaeth, teimlo ar goll ac ofn, sy’n hollol naturiol mewn unrhyw broses greadigol, ond mae goresgyn y pethau hynny wedi fy helpu i dyfu fel cerddor, fel storïwraig ac fel person.” 

Dewiswyd y teitl ‘UMA’ gan nad oes iddo unrhyw ystyr etifeddol. Gair wedi’i greu ydyw, gair sy’n gallu golygu dim byd a phopeth ar yr un pryd.

I Anthony, daeth yn llechen lân, yn ddrws i fyd y gellid ei ddiffinio’n llwyr ar ei thelerau ei hun.

Ar draws yr albwm, mae’r byd hwnnw’n symud rhwng dau dirwedd dra gwahanol: lloriau gludiog, mwg a chwys clybiau nos Ewrop, arfordir garw, mynyddoedd a mannau agored Gorllewin Cymru.

Aros yn ddigyfaddawd

Mae’r caneuon yn symud drwy gariad dwys, cyfeillgarwch, blinder, bregusrwydd, swrealaeth a rhyddhad. Mae rhai yn dod o hyd i ryddid yn nhywyllwch cymunedol clwb nos, tra bod eraill yn troi at natur, agosatrwydd a meddalwch fel ffyrdd o ddod o hyd i gryfder.

Yr hyn sy’n eu clymu at ei gilydd yw nid annibyniaeth fel rhyw fath o ynysigrwydd, ond y darganfyddiad y gall Anthony ymddiried yn ei greddf ei hun heb gau ei hun oddi wrth y bobl, y lleoedd a’r cymunedau o’i chwmpas.

“Mae’r albwm yn adlewyrchu hunanddarganfyddiad, darganfod hyder a dysgu sut i fod yn ddigyfaddawd” eglura’r cerddor. 

“Roedd ysgrifennu’r albwm ar fy mhen fy hun yn caniatáu i fy ngweledigaeth aros yn ddigyfaddawd, ond y tu hwnt i hynny rydw i wedi dysgu bod yn ddi-ofn ac i gredu ac ymddiried ynof fy hun mewn bywyd bob dydd.

“Mae’r albwm yn onest, yn deimladwy ac yn llawen, ac yn adlewyrchu’r holl emosiynau mae bywyd yn eu taflu atom. Mae’n sôn am ailddyfeisio, dod o hyd i chi’ch hun eto ar ôl newidiadau mawr, treialon y diwydiant cerddoriaeth, cariad, tristwch a chyfeillgarwch.”

Yn gerddorol, mae UMA yn tynnu ar gorfforoldeb ac ailadrodd post-punk a cherddoriaeth ddiwydiannol, ochr yn ochr â phosibiliadau pop electronig.

Mae olion Kim Gordon a Lizzy Mercier Descloux, rhyddid rhythmig CAN, byd-eangrwydd creadigol Björk ac awyrgylch dwys, ymdrochol Tricky, Massive Attack a Nine Inch Nails, ond mae’r canlyniad yn gwbl unigryw i GWEN: llinellau bas grymus, elfennau electroneg finimalaidd, rhythmau hypnotig a chyfansoddi caneuon emosiynol uniongyrchol gyda’r Gymraeg wrth ei galon.

Dyma sŵn Gwenllian Anthony yn darganfod beth sy’n digwydd pan mae hi’n ymddiried yn llwyr ynddi hi ei hun: yn greadigol, yn bersonol ac yn ieithyddol. Albwm am ailddyfeisio, gwrthddywediad a chreu lle i chi’ch hun heb aros am ganiatâd.

Dyma fideo’r trac ‘POP!’:

Gadael Ymateb