Y band ifanc o Gaerdydd, Penbleth, oedd enillwyr cystadleuaeth Brwydr y Bandiau Eisteddfod Genedlaethol y Garreg Las yn Llantwd.
Cafodd eu set 20 munud ar Lwyfan y Maes brynhawn Mercher dderbyniad brwdfrydig gan y gynulleidfa a chanmoliaeth gan y beirniad.
Ffurfiwyd Penbleth – sy’n cael eu harwain gan y gantores a’r awdur geiriau Pegi Wigley – yn 2025 drwy brosiect ‘Yn Cyflwyno’ Tafwyl.
Aelodau eraill y band yw Ioan Brooks, Steffan Lewis, Steffan Jones, Aaron Owen-Griffiths a Gruffydd Rees.
Rhyddhaodd y grŵp pum aelod eu sengl gyntaf, ‘S’dim clem da fi’, yn gynharach eleni wrth baratoi ar gyfer eu harholiadau TGAU, ac maent eisoes wedi perfformio mewn lleoliadau amlwg fel Clwb Ifor Bach a Tafwyl.
Mae Brwydr y Bandiau yn bartneriaeth rhwng yr Eisteddfod a’r BBC. Ei nod yw darganfod cerddoriaeth Gymraeg gyfoes newydd a thalentog, ac mae wedi datblygu i fod yn un o’r prif gystadlaethau i fandiau ifanc.
Mae’r gystadleuaeth yn agored i fandiau sy’n cyfansoddi, yn cynhyrchu ac yn perfformio cerddoriaeth boblogaidd gyfoes wreiddiol. Mae’r genres cyfoes hyn yn cynnwys indie, electronig, trefol, MOBO, pop, roc, cerddoriaeth y byd, gwerin gyfoes ac unrhyw genre cerddorol cyfoes newydd ac sy’n dod i’r amlwg.
Roedd angen i gystadleuwyr gyflwyno recordiad demo neu fideo o set o hyd at bedair cân wreiddiol er mwyn cael eu hystyried ar gyfer y gystadleuaeth.
Derbyniodd Penbleth y wobr o £1,000 oedd yn roddedig i’r Eisteddfod gan Gyngor Cymuned Eglwyswrw.
Yng nghystadleuaeth Brwydr y Bandiau Gwerin eleni, y grŵp newydd Mantach ddaeth i’r brig.
Chwaraeodd y grŵp o bump cerddor gwerin ifanc a chyffrous eu gig cyntaf yn Llanfyllin chwe wythnos yn ôl.
Dyma Penbleth yn perfformio ‘S’dim clem da fi’ yn Stiwdio Acapela: