Sengl newydd Mei Emrys  

Mae Mei Emrys wedi rhyddhau ei sengl ddiweddaraf ers dydd Gwener diwethaf, 25 Medi. 

‘Digwydd Cwrdd’ ydy enw’r trac newydd ganddo sydd allan ar Recordiau Côsh.

Wedi ei recordio a’i chynhyrchu gan Rich Roberts – yn Stiwdio Ferlas, Penrhyndeudraeth – dyma sengl gyntaf cyn brif leisydd Vanta ers ‘Hen’, sef deuawd gydag Elidyr Glyn, a gafodd ei rhyddhau bron i flwyddyn yn ôl bellach, yn hydref 2025.

Ond mae sain ac arddull gerddorol ‘Digwydd Cwrdd’ yn cyferbynnu’n fawr i naws canu gwlad hiraethus y gân honno.

Yn wir, mae sengl ddiweddaraf Mei yn cyfuno ystod o wahanol ddylanwadau, sy’n amrywio o Coldplay a John Mayer i fandiau roc llai enwog o droad y mileniwm, megis Semisonic a Jet. Ar yr un pryd, mae elfennau o’r gân newydd hefyd yn adleisio ‘Goodbye Yellow Brick Road’, gan Elton John, a harmonïau gorfoleddus yr arwyr pop o orllewin Cymru, Ail Symudiad.

Gyda geiriau myfyriol – sy’n edrych yn ôl ar dorcalon o’r gorffennol pell ac yn ystyried goblygiadau posibl hen lwybrau’n croesi, ‘Digwydd Cwrdd’ fydd Trac yr Wythnos BBC Radio Cymru o ddydd Llun, 28 Medi.

Ar ôl iddo gynhyrchu fideo i gyd-fynd â ‘Hen’ y llynedd, mae cyn-gitarydd y band Gwilym, Rhys Grail – sydd bellach yn rhyddhau cerddoriaeth o dan yr enw SHINOBii – wedi creu clip hyrwyddo arall ar gyfer y sengl hon. Cafodd y fideo newydd ei ffilmio yn Neuadd Mynytho (ym Mhen Llŷn) ac ar lannau’r Foryd, ger Caernarfon.

Fel yn achos holl senglau blaenorol Mei, Dion Jones – o’r band Alffa – sydd wedi dylunio’r gwaith celf / clawr trawiadol ar gyfer ‘Digwydd Cwrdd’.

 Mae’r sengl hon yn rhagflaenu dyfodiad ail albwm unigol hir-ddisgwyliedig y canwr-gyfansoddwr o ardal Caernarfon, fydd yn cael ei ryddhau fis Tachwedd – bydd ‘Atlas’ yn cynnwys fersiwn ychydig yn hirach o ‘Digwydd Cwrdd’, ynghyd â nifer o ganeuon newydd sbon eraill.

 

Gadael Ymateb