Mae’r artist electronig, Tokomololo, wedi rhyddhau ei sengl newydd, ‘Simsan’.
Tokomololo ydy prosiect Meilir Tee Evans ac mae wedi bod yn weithgar iawn ers dod i’r amlwg ar ddiwedd 2023 gan ryddhau cynnyrch yn gyson trwy label HOSC.
Mae teitl ei sengl ddiweddaraf yn cyfeirio at gyflwr o ansicrwydd a diffyg cydbwysedd, disgrifiad addas o drac sy’n edrych ar y berthynas rhwng rhythm ac aflonyddwch – nodwedd sy’n ganolog i sain Tokomololo.
Gan blethu curiadau cynnes, lleisiau Cymraeg a synau wedi’u recordio allan yn nhirwedd gogledd Cymru, mae ei gerddoriaeth yn eistedd yn gwmni i artistiaid fel Caribou, Fred Again a Four Tet.
Mae ‘Simsan’ yn dilyn ‘Deffro’, sengl a nododd drobwynt pwysig i’r prosiect, gan gronni dros 10,000 o ffrydiau organig mewn ychydig dros fis.
Dyma’r cam diweddaraf mewn cyfnod sy’n gweld Tokomololo yn dringo’n gyflym, o FOCUS Wales i Ŵyl Sŵn, Other Voices (Aberteifi) a digwyddiad celfyddydol wedi’i guradu gan enillydd Gwobr Turner Jeremy Deller.