‘Gaiman i Esquel’ – sengl newydd Mered Morris
Mae’r canwr-gyfansoddwr profiadol Mered Morris wedi rhyddhau ei sengl ddiweddaraf. ‘Gaiman i Esquel’ ydy enw’r trac newydd gan y cerddor sydd wedi chwarae gitâr i nifer o fandiau a cherddorion eraill yn y gorffennol ond sydd bellach yn rhyddhau cerddoriaeth yn unigol ers sawl blwyddyn.