EP Palenco ar y gweill

Mae Palenco wedi datgelu eu bod nhw wrthi’n recordio EP newydd ar hyn o bryd. Rhyddhawyd sengl ddwbl gyntaf y grŵp oedd yn cynnwys y traciau ‘Saethu Cnau’ a ‘Bath’ yn Awst 2014, ac yna rhyddhawyd albwm llawn ganddyn nhw oedd yn rhannu enw’r grŵp ar label I Ka Ching yng Nghorffennaf 2015.