Os ydach chi’n chwilio am rywbeth i’w wneud nos Wener nesaf yna beth am flas o’r hyn sydd i ddod yn Steddfod Llanelli fis Awst?
Mae Cymdeithas yr Iaith yn lansio eu gigs ’Steddfod (#GigsSteddfod) gyda gig arbennig yn un o’r lleoliadau y byddan nhw’n defnyddio, sef Clwb Rygbi Ffwrnes.
Bydd 4 o fandiau ifanc addawol iawn Sir Gâr yn perfformio sef Bromas, Tymbal, Y Banditos a Castro.
Bydd y Gymdeithas yn defnyddio tri lleoliad yn ystod wythnos yr Eisteddfod eleni sef y Clwb Rygbi, y Thomas Arms a’r Kilkenny Cat.
Mae’r Gymdeithas hefyd wedi cyhoeddi y byddan nhw’n cynnal parti mawr ar faes yr Eisteddfod ar y dydd Gwener eleni.
“Bydd pob un o’r bandiau sy’n chwarae yn y gig lansio hefyd yn chwarae mewn parti mawr fyddd gan Gymdeithas yr Iaith ar faes yr Eisteddfod” meddai Llewelyn Hopwood o’r Bromas.
“Y gobaith yn y parti yw dathlu fod y Cyngor Sir wedi cyhoeddi strategaeth i adfer y Gymraeg yn y sir.”
“Mae gigs a digwyddiadau cymdeithasol reit ynghanol trefi fel Llanelli yn rhan bwysig o hynny a dyna pam mae mor bwysig i ni fod yn rhan o’r parti ar y maes a’r gig yn y nos – a’r gig yma nos Wener.”
Mae’r gig lansio ar nos Wener 11 Ebrill yn dechrau am 19:30