Calon Dan Glo – I Fight Lions

Mae I Fight Lions nôl gyda sengl swmpus dros 4 munud a hanner i’n paratoi at yr albwm fydd allan ym mis Mehefin.

Hawdd fyddai colli diddordeb y gwrandawyr mewn cân o’r hyd yma ond nid dyna wnai IFL yn y trac synth disco hwn. Maent yn ein tynnu nôl mewn i’r chwyrligwgan o synnau, riffiau a steiliau gwahanol mewn tamaid i aros pryd gwerth chweil. 

Roedd Arctic Monkeys yn ddylanwad amlwg ar ei cerddoriaeth blaenorol gyda canu a riffiau cyflym. Felly roeddwn i’n poeni pan glywais gychwyn y gân hon gyda’r sŵn gitârs glân, over-produced efallai, taw cân Mei Emrys-aidd fyddai hon. Ond na, cefais fy nhaflu gan synnau’r synths yn bwydo sail y gân gyda dylanwad Van Halen o dan lais y comediwr Hywel Pitts sydd fel mêl i’ch clustiau.

Mae patrwm eitha pendant i’r chords, mae’n ailadrodd y gytgan ddigon i fynd rownd a rownd dy ben di, ond efo digon o rhythmau a chordiau annisgwyl i dynnu dy sylw di a dy gadw di ar flaen dy sêt.

Felly os cwympoch chi mewn cariad gyda’r chord sinistr (1:35) fel fi, fydd rhaid i chi wrando eto, ac eto.

Aur Bleddyn