Gwobrau’r Selar: Agor y bleidlais a thocynnau ar werth

Mae Y Selar yn falch iawn i gyhoeddi bod pleidlais gyhoeddus Gwobrau’r Selar ar agor, a thocynnau penwythnos ar gyfer 15-16 Chwefror hefyd ar werth.

Dros yr wythnosau diwethaf rydych wedi bod yn enwebu ar gyfer categoriau’r Gwobrau yn eich cannoedd. Rydym wedi derbyn mwy o enwebiadau eleni nag erioed o’r blaen ac mae hynny’n arwydd clir o’r brwdfrydedd sydd ynglŷn â cherddoriaeth Gymraeg gyfoes ar hyn o bryd, a hefyd gobeithio ynglŷn â Gwobrau’r Selar!

Ar ôl derbyn eich enwebiadau, mae Panel Gwobrau’r Selar, sy’n cynnwys nifer o gyfranwyr a darllenwyr Y Selar, wedi dewis eu rhestrau hir a nawr mae’r penderfyniad terfynol yn ôl yn eich dwylo chi!

Yr unig eithriad yn ôl yr arfer ydy’r Wobr Cyfraniad Arbennig – bydd enillydd honno’n cael benderfynu gan dîm Y Selar.

Seren y Sin

Bydd y rhan fwyaf o’r categoriau’n gyfarwydd i chi, ond mae un categori newydd eleni sef ‘Seren y Sin‘.

Y syniad gyda’r wobr yma ydy rhoi cyfle i ddarllenwyr Y Selar ddangos eu gwerthfawrogiad dros bobl sy’n gweithio’n galed dros gerddoriaeth Gymraeg, efallai’n dawel bach tu ôl i’r llenni, ac sydd ddim o reidrwydd yn cael cydnabyddiaeth gan yr un o’r categorïau eraill.

Mae rhestr hir categori ‘Seren y Sin’ yn un sy’n adlewyrchu naws y wobr ac yn cynnwys rheolwr label Recordiau Libertino, Gruff Owen; Branwen ‘Sbrings’ Williams sy’n rhannol gyfrifol am Recordiau I KA CHING ac yn trefnu gigs yn ardal Y Bala; y cyflwynydd Radio Ysbyty a threfnydd gigs Michael Aaron Hughes; y cynhyrchydd a rheolwr label Sbrigyn-Ymborth, Aled Wyn Hughes; criw blog cerddoriaeth a phodlediad Sôn am Sîn; a’r sianel YouTube cerddoriaeth Gymraeg ‘answyddogol’, Ffarout.

Mae modd pleidleisio am y categori yma ynghyd a’r 11 arall trwy dudalen Facebook Y Selar. Er mwyn sicrhau mai unwaith bydd pawb yn pleidleisio, rhaid cael cyfrif Facebook i fwrw pleidlais.

Gall unrhyw un sydd ddim ar Facebook gysylltu’n uniongyrchol â’r Selar i drefnu pleidleisio mewn dull amgen – gyrrwch nodyn ebost (yselar@live.co.uk) neu neges uniongyrchol trwy Twitter.

Mae modd pleidleisio trwy gydol mis Rhagfyr, a bydd y bleidlais yn cau am hanner nos ar nos Calan (31 Rhagfyr).

Tocynnau penwythnos ar werth

Y newyddion mawr pellach ydy bod tocynnau penwythnos ar gyfer digwyddiad Gwobrau’r Selar bellach ar werth.

Fel y gwyddoch mae’n siŵr, mae’r digwyddiad yn ymestyn dros ddwy noson y tro yma sef nos Wener 15 Chwefror a nos Sadwrn 16 Chwefror, a hynny yn Undeb Myfyrwyr Aberystwyth. Bydd clincar o lein-yp ar y ddwy noson, a chyflwyno’r gwobrau’n cael eu rhannu dros y ddwy hefyd.

Rydym wedi penderfynu cyfyngu ar y nifer tocynnau eleni i ddim ond 600 – gan ystyried bod dros 1000 wedi bod i’r Gwobrau ym mhob un o’r tair blynedd ddiwethaf, y cyngor felly ydy prynu’n fuan rhag cael eich siomi. Bydd dolen i chi wneud hynny ar ôl i chi gyflwyno eich pleidlais.

Mae’n debygol bydd tocynnau ar gyfer y nosweithiau unigol yn cael eu rhyddhau yn y man, ond mae hynny’n ddibynol ar faint o’r tocynnau penwythnos fydd yn gwerthu. Mae hefyd yn rhatach prynu tocyn penwythnos na phrynu tocynnau unigol ar gyfer y ddwy noson – dim esgus i oedi felly.

Pleidleisiwch dros Wobrau’r Selar nawr!