Mae Mr wedi cyhoeddi y bydd yn rhyddhau albwm newydd ar 25 Hydref.
Mr ydy prosiect diweddaraf Mark Roberts, gynt o’r Cyrff, Catatonia, Y Ffyrc, Sherbet Antlers, Messrs ac The Earth.
Rhoddwyd gwobr Cyfraniad Arbennig Gwobrau’r Selar i Mark, ynghyd â’i gyfaill a chyd-aelod Y Cyrff, Catatonia, Y Ffyrc a Sherbet Antlets, Paul Jones ym mis Chwefror eleni.
Rhyddhawyd albwm cyntaf Mr, ‘Oesoedd’, llynedd ac mae’r albwm newydd, ‘Amen’, yn cael ei ryddhau bron union flwyddyn yn ddiweddarach.
Cafwyd ymateb gwych i albwm cyntaf Mr, ac mae disgwyl croeso mawr i’r newyddion bod yr albwm newydd yn cael ei gyhoeddi mor fuan.
Efelychu’r albwm cyntaf
Mae Mark wedi dilyn trefn debyg i’r tro diwethaf wrth recordio’r albwm – mae’r cyfan wedi’i recordio yn ei atig gartref, ar wahân i’r traciau gyda drymiau sydd wedi eu recordio mewn stiwdio ym Mae Caerdydd.
Drymiwr Super Furry Animals, Dafydd Ieuan, sydd wedi cymysgu’r gerddoriaeth i gyd ac ei label ef, Strangetown Records, fydd yn rhyddhau’r casgliad.
“Bydd o allan 364 diwrnod ar ôl Oesoedd, felly dwy albwm mewn blwyddyn!” meddai Mark Roberts.
Mae clawr yr albwm newydd wedi’i ddylunio gan Tayler Morgan, Blindspot Design. Bydd yr albwm yn cael ei ryddhau’n ddigidol ac ar CD.
Roedd cyfle cyntaf i glywed sengl gyntaf yr albwm newydd, ‘Waeth i Mi Farw Ddim’, ar raglen Radio Cymru Rhys Mwyn nos Lun, 30 Medi.
Dyma sgwrs Mark a Paul yng Ngwobrau’r Selar eleni:
Prif Lun: Mr, Clwb Ifor Bach (Betsan Haf Evans / Y Selar)