Cyhoeddi Lein-yp Sesiwn Fawr Dolgellau

Mae gŵyl Sesiwn Fawr Dolgellau wedi cyhoeddi eu lein-yp ar gyfer y digwyddiad eleni.

Cynhaliwyd Gŵyl Gwrw Sesiwn Fawr Dolgellau dros y penwythnos, a chan ddilyn traddodiad y blynyddoedd diwethaf, dyma oedd digwyddiad lansio’r brif ŵyl sy’n cael ei chynnal ym mis Gorffennaf.

Dim syndod gweld fod rhai o brif enwau cerddorol Cymru ar y lein-yp – Geraint Jarman, Meic Stevens, Candelas, Gwilym a Welsh Whisperer yr amlycaf yn eu plith.

Gŵyl werin ydy Sesiwn Fawr Dolgellau yn y bôn wrth gwrs, ac mae arlwy werin y penwythnos yn arbennig o gryf gyda Gwilym Bowen Rhys, Bwncath, The Trials of Cato a Vrï i enwi dim ond rhai.

Mae comedi wedi chwarae rhan amlwg yn yr ŵyl dros y blynyddoedd diweddaraf hefyd ac mae Hywel Pitts, Beth Angell a Daniel Glyn ymysg y comediwyr fydd yn adlonni eleni.

Cynhelir yr ŵyl dros benwythnos 19 – 21 Gorffennaf eleni gyda pherfformiadau mewn lleoliadau amrywiol o amgylch tref Dolgellau. Mae tocynnau cyntaf i’r felin ar werth nawr ar wefan yr ŵyl am bris arbennig o £45.