Pump i’r Penwythnos – 22 Mawrth 2019

Gig: Bryn Fôn, Phil Gas, Dyfrig Evans, Neil Maffia – Y Groeslon, Llanfairpwll – 22/03/19

Penwythnos prysur i Phil Gas a’r Band penwythnos yma ar ól i’w albwm, oedd allan ar CD cyn hynny, gael ei ryddhau’n ddigidol wythnos diwethaf.

Mae’n chwarae mewn glamp o gig yn Y Groeslon, Dyffryn Nantlle gyda thri o gerddorion mwyaf dylanwadol Cymru yn gwmni i Phil – Bryn Fôn, Dyfrig Evans a Neil Maffia. Mae elw’r gig yn mynd at gronfa’r diffribiwlydd lleol felly achos da i’w gefnogi.

Un arall prysur, yn ôl yr arfer, ydy’r Welsh Whisperer gyda gig heno yng ngwesty’r Llwyngwair ger Trefdraeth. Yna nos fory mae’n teithio nôl i’r Gogledd i Neuadd Gellilydan lle bydd cefnogaeth gan y ddeuawd Gethin a Glesni.

Mae cyfle arbennig i weld ffilm Huw Stephens, Anorac, yn Neuadd Ogwen, Bethesda heno gyda Patrobas yn perfformio hefyd. Mae Kizzy Crawford yn chwarae heno yn Nhafarn y Vic Park yn Nhreganna, gyda chefnogaeth gan ei chwaer Eadyth.

Ac yn olaf ar nos Wener brysur o gigs heno, dau fand ifanc gwych yn perfformio yn Saith Seren, Wrecsam sef Gwilym a Ffracas, sydd wedi bod yn dawel yn ddiweddar – manteisiwch ar y cyfle i’w dal nhw.

 

Cân: ‘Diolch am Eich Sylwadau, David’ – Bitw

Grêt i weld sengl newydd yn cael ei rhyddhau gan yr ardderchog Bitw wythnos diwethaf, ar 15 Mawrth.

Bitw ydy prosiect diweddaraf Gruff ab Arwel, oedd yn aelod craidd o’r grŵp Eitha Tal Ffranco a sydd hefyd yn aelod o’r grŵp syrff o’r gogledd, Y Niwl.

Mae ‘Diolch am Eich Sylwadau, David’ yn ddilyniant i ddwy sengl flaenorol Bitw sef ‘Gad i mi Gribo Dy Wallt’ a ryddhawyd fel un o Senglau Sain yn Rhagfyr 2017, a ‘Siom’ a ryddhawyd ym mis Mawrth 2018.

A’r newyddion ardderchog pellach ydy fod y cerddor wedi cyhoeddi fideo ar gyfer y trac sydd ar gael i’w weld ar safle YouTube Bitw nawr.

Yn ôl y label, ‘Diolch am Eich Sylwadau, David’ ydy’r ail sengl o’r albwm sydd ar y gweill gan BITW ers peth amser. Mae’r sengl yn cael ei disgrifio fel ‘cân bop fachog, sydd â geiriau ‘anghyffredin ac outro munud a hanner’ mewn hyd.

Bydd cyfle i weld Bitw yn perfformio’n fyw yn lansiad rhifyn diweddaraf cylchgrawn Y Stamp yng Nghell B, Blaenau Ffestiniog ar nos Wener 29 Mawrth.

 

Record: Da Ni’m yn Rhan O’th Gêm Fach Di – Maffia Mr Huws

Gan fod Neil Maffia’n chwarae’n fyw dros y penwythnos, roedden ni’n meddwl ei fod yn gyfle gwych i roi sylw i un o recordiau’r grŵp ddaeth a Neil i amlygrwydd ar ddechrau’r 1980au.

Grŵp ifanc o Fethesda oedd Maffia Mr Huws ac yr aelodau craidd oedd y brodyr Gwyn a Sion Jones, a Deiniol Morus. Roedden nhw’n perfformio’n wreiddiol dan yr enw Weiran Bigog nes i Hefin Huws ymuno, a ganwyd Maffia Mr Huws. Daeth Neil yn ganwr yn lle Hefin yn ddiweddarach.

Daeth y grŵp yn boblogaidd iawn yn gyflym iawn ar ddechrau’r 80au, gan ennill gwobrau’r Record Orau a Band Roc Gorau yng Ngwobrau Sgrech ym 1983, a’r wobr am y Band Roc Gorau’r flwyddyn ganlynol hefyd.

Rhan o’r rheswm am eu poblogrwydd oedd y ffaith eu bod nhw’n gigio fel nytars – yn ôl y sôn roedden nhw’n gigio hyd at gant o weithiau mewn blwyddyn ar un pryd, a hynny mewn amrywiaeth eang o ardaloedd.

Fe waethon nhw ryddhau dau albwm yn y cyfnod cynnar yma sef Yr Ochr Arall ym 1983 ac ein dewis o record yr wythnos,  Da Ni’m yn Rhan o’th Gêm Fach Di ym 1984, sy’n golygu ein bod ni’n nodi 35 mlynedd ers rhyddhau’r casgliad eleni.

Mae’r albwm yn cynnwys swp o ganeuon amlycaf y band gan gynnwys ‘Hysbysebion’, ‘Da Ni’m yn Rhan’ a ‘Gitâr yn y To’ sydd efallai’n un o ganeuon gorau’r grŵp. Fideo gwych i’r trac hefyd!

 

Artist: Papur Wal

Mae tipyn o sylw wedi bod i Papur Wal ar wefan Y Selar dros yr wythnos diwethaf, felly roedd rhaid i ni roi nod i’r grŵp yn ein Pump i’r Penwythnos yr wythnos hon.

Ddydd Sadwrn diwethaf roedd Y Selar yn falch iawn o allu cynnig y cyfle cyntaf i ffrydio EP newydd Papur Wal, Lle yn y Byd Mae Hyn? Bydd yr EP allan yn swyddogol ar Recordiau Libertino wythnos nesaf ar 29 Mawrth.

Mae ‘na dipyn o gynnwrf ers peth amser am y grŵp ifanc sy’n dod yn wreiddiol o’r gogledd, ond sydd wedi sefydlu yn Nghaerdydd. Mae ‘na hefyd addewid o EP ganddyn nhw ers peth amser – bu i’r Selar adrodd fod y record ar y ffordd ganddyn nhw reit nôl ym mis Mai llynedd!

Braf iawn gweld y casgliad byr pedwar trac yn gweld golau dydd felly, ac mewn cyfweliad arbennig gyda’r Selar wythnos diwethaf bu i gitarydd a phrif ganwr Papur Wal, Ianto Gruffudd drafod rhai o’r rhesymau dros yr oedi gyda’r EP.

Ac mae’n ymddangos fod y band o’r diwedd yn codi momentwm, gyda bwriad i ddychwelyd i’r stiwdio fis nesaf i recordio dwy sengl arall.

Ond cyn hynny, mae cyfle i ni fwynhau’r fideo ar gyfer eu sengl diweddaraf, ‘Mae’r Dyddiau Gwell i Ddod’, sy’n cael ei gyhoeddi gan Ochr 1 heddiw. Dyma ragolwg o’r fideo:

Un peth arall…: Noson Newydd Tafwyl

Mae Gŵyl Tafwyl yn y Brifddinas wedi hen sefydlu fel un o wyliau Cymraeg mwyaf y wlad, gyda llwyth o gerddoriaeth ar lwyfannau amrywiol.

Ac mae’n ymddangos bydd hyd yn oed mwy o gerddoriaeth eleni gyda’r cyhoeddiad hefyd bod asiantaeth hyrwyddo PYST yn cydweithio gyda chriw Tafwyl i lwyfannau noson arbennig ar 21 Mehefin.

Bydd y noson, fel prif ddigwyddiad yr ŵyl, yng Nghastell Caerdydd gyda mynediad am ddim i’r digwyddiad sy’n cael ei gynnal rhwng 5:30 a 10:00.

Mae prif lein-yp y gig yn un sy’n tynnu dŵr i’r dannedd gyda Gwenno, Lleuwen, Adwaith a Serol Serol yn perfformio ynghyd â set DJ gan Huw Stephens.

Ond mae ail lwyfan hefyd, sef Llwyfan Y Sgubor, sy’n cael ei guradu gan Swci Delic. Ar y llwyfan yma mae cyfle i ddal Y Niwl, Zabrinski, Ani Glass, Bitw a DJ Toni Schiavone.

Clamp o gig ar nos Wener Tafwyl felly, wrth i’r digwyddiad fynd  o nerth i nerth.