Mae label Recordiau Côsh wedi cyhoeddi bydd y band Angel Hotel yn ymuno â’r label.
Angel Hotel ydy prosiect diweddaraf y cerddor adnabyddus Siôn Russell Jones sydd wedi rhyddhau cerddoriaeth dan ei enw ei hun yn y gorffennol, a hefyd fel rhan o’r ddeuawd Ginge a Cello Boi.
Daeth ei fand diweddaraf i’r amlwg llynedd, a dal y sylw’n rhannol diolch i’w fersiwn wych o’r gân Super Furry Animals, ‘Torra Fy Ngwallt yn Hir’ a ymddangosodd ar gasgliad elusennol, Corona Logic.
Yn ôl Côsh bydd mwy o newyddion am gynlluniau’r band yn fuan, ond mae Angel Hotel wedi datgelu ar eu cyfryngau cymdeithasol y byddant yn rhyddhau sengl newydd ar 15 Ebrill.
Bydd cyfle i weld y grŵp yn perfformio’n fyw yn Le Pub, Casnewydd ar 6 Ebrill hefyd.