Lisa Pedrick yn rhyddhau EP Dihangfa Fwyn

Mae Lisa Pedrick we rhyddhau sengl ac EP yr wythnos hon. 

‘Dihanfa Fwyn’ ydy enw’r sengl oedd allan ar ddydd Mercher ac mae’n dilyn cyfres o senglau sydd wedi’u rhyddhau’n ddiweddar gan Lisa fel rhagflas i’w EP newydd. 

Mae’r gantores o Waun-Cae-Gurwen eisoes wedi rhyddhau’r traciau ‘Camddyfynnu’ a ‘Numero Uno’ dros y cwpl o fisoedd diwethaf fel blas o’r hyn sydd i ddod.

Y trac ‘Dihangfa Fwyn’ ydy’r diweddaraf, a’r olaf fel tamaid i aros pryd nes yr EP sy’n rhannu enw’r trac sydd allan heddiw. 

Recordiau Rumble fydd yn rhyddhau’r EP, ac yn ôl y label mae’r record i godi gwên a chynhesu’r enaid wrth i Lisa rannu ei theimladau mwyaf personol trwy ei chaneuon. 

Mae’r sengl ddiweddaraf, ‘Dihangfa Fwyn’ yn drac sydd â digon o fynd ynddi ac yn ôl y label yn un sy’n mynd i godi calon ac annog y gwrzndawr i ddawnsio a symud i’r curiad.

EP i godi calon

“Mae gan bawb rhywun, neu rhywbeth, yn eu bywydau sy’n gwneud iddyn nhw deimlo’n well, sy’n gallu torri’r wawr a rhoi gobaith i ni am ddiwrnod newydd” meddai Lisa wrth drafod ystyr  geiriau ‘Dihangfa Fwyn’.  

“Boed yn ffrind, teulu, cydweithiwr neu bartner mae gallu troi at y dihangfa fwyn yna yn eich bywyd, i godi calon pan mae popeth yn edrych yn eitha’ tywyll, yn bwysig.”

“Rwy’n ddiolchgar iawn am gael y fath berthynas yn fy mywyd. Efallai mai lleoliad neu gân sy’n gweithio fel dihangfa fwyn i eraill. Os yw’r gân yma’n gallu codi calon a chynhesu’r diwrnod i rhywun fe fyddai’n hapus iawn.”

Bydd y ddwy sengl flaenorol ‘Numero Uno’ a ‘Camddyfynnu’ yn ymuno â ‘Dihangfa Fwyn’ ar yr EP ac mae’r ddwy wedi eu chwarae’n rheolaidd ar Radio Cymru. 

Mae dwy gân arall ar y record fer hefyd, a rheiny’n ganeuon serch o’r enw ‘Hir Yw Pob Aros’ a ‘Dal Yno Rhywle’.

Profiadau emosiynol

Mae’r ddwy gân yn adlewyrchu ar adegau anodd ym mywyd personol Lisa, ‘Hir Yw Pob Aros’, trwy eiriau emosiynol Lowri Carlisle yn sôn am frwydrau mynd trwy driniaeth IVF tra bod ‘Dal Yno Rhywle’ yn sôn am frwydrau Lisa gydag iselder ôl-enedigol.

Nid ar chwarae bach mae rhannu profiadau mor bersonol, ond wrth resymegu pam ei bod wedi penderfynu gwneud hynny, dywed Lisa ei bod yn ei gweld hi’n bwysig i bobl drafod profiadau anodd yn agored. 

“Roedd hi’n gyfnod eitha’ unig mewn ffordd” meddai Lisa. 

“Dyw cael trafferth i feichiogi a mynd drwy triniaeth IVF ddim yn rhywbeth mae pobl yn ei drafod yn agored, sy’n siom mewn gwirionedd gan bod gymaint yn gorfod mynd trwy’r profiad.”

Yn dilyn llawenydd genedigaeth eu plant dioddefodd Lisa o iselder ôl-enedigol. Mae ‘Dal Yno Rhywle’, fel ‘Hir Yw Pob Aros’, yn llawn emosiwn personol, amrwd.

Ysgrifennodd Lisa’r gân gyda’i brawd, Aled Pedrick, yn ystod y cyfnod clo cyntaf nôl yn 2020. 

“Roedd y gân yn neges i fy nheulu ar y pryd mod i’n dal yno rhywle ac i beidio â rhoi’r gorau arnai” eglura Lisa. 

“Rwy’n teimlo bod y gân yn berthnasol i unrhyw un sydd wedi dioddef o iselder. Rwy’n siwr bod pawb yn cofio gorfod gwneud pob peth dros y ffôn a galwadau fideo yng nghyfnod cynnar Covid. 

“Roedd Aled yn Llundain yn ystod y cyfnod yna ac fe aethon ni ati i gyfansoddi gyda’n gilydd dros FaceTime. Dyna’r tro cynta’ i ni ysgrifennu gyda’n gilydd ond ry’n ni’n awyddus iawn i weithio ar mwy o ganeuon yn y dyfodol.”

O dynerwch ‘Hir Yw Pob Aros’, i’r dicter yn ‘Camddyfynnu’, mae’r EP yn llawn emosiwn gyda Lisa’n dweud y dweud yn ddi-flewyn ar dafod.

Dyma Lisa’n perfformio’r trac ‘Dihangfa Fwyn’ ar Heno’ gynharach wythnos yma: