Pump i’r Penwythnos – 01 Gorffennaf 2022

Gig: Gŵyl Car Gwyllt

Mae’r gwyliau’n dod un ar ôl y llall ar hyn o bryd, a da o beth ydy gweld hynny. 

Y diweddaraf ydy Gŵyl Car Gwyllt sy’n digwydd ym Mlaenau Ffestiniog penwythnos yma, ac mae clamp o lein-yp da yno chwarae teg.  

Mae’r cyfan yn dechrau yng Nghlwb Rygbi Blaenau heno gydag Estella, Gai Toms, Leri Ann, Mared, Tom Jeffreys ac Yr Ogs yn perfformio. 

Fory, bydd cerddoriaeth trwy’r dydd o hanner dydd ymlaen gyda llwyth o fandiau da’n perfformio – Candelas, Los Blancos, Breichiau Hir, Y Cledrau, Mistêcs, Sybs, Ynys, Patryma, Pys Melyn, Mr Phormula, Hap a Damwain a Deryn Melyn. 

Ac yna mae parti diwedd y penwythnos yn nwylo abl Twmffat nos Sul, gyda’r arlwy’n symud i’r Tap. 

Penwythnos a hanner o gerddoriaeth ym Mlaenau Ffestiniog

 

Cân: ‘Nefoedd yr Adar’ – Melin Melyn

Rydan ni’n ffans mawr o Melin Melyn yma yn Selar HQ felly’n falch iawn i weld y grŵp gwallgof yn ôl gyda’u sengl newydd. 

‘Nefoedd yr Adar’ ydy enw cynnig diweddaraf y grŵp sydd wedi dal y sylw gyda’u perfformiadau byw lliwgar, a thraciau cwyrci. 

Rhyddhawyd y sengl ddydd Mawrth diwethaf, 28 Mehefin, a dyma’r trac cyntaf oddi ar eu EP newydd Happy Gathering, fydd yn cael ei rhyddhau dros y cwpl o fisoedd nesa.

Ma’r gân wedi ei hysbrydoli gan hen chwedl am Nefydd Hardd, brenin cenfigennus a foddodd dywysog ifanc mewn llyn yn Eryri yn y deuddegfed ganrif. 

Enw’r tywysog oedd Idwal, ac fe enwyd y llyn yn Llyn Idwal er cof amdano. Credir nad oes yr un aderyn yn hedfan dros y llyn gan eu bod i gyd yn galaru, ac mi glywir udo yn y pellter pan fydd storm yn y cwm.

Cyhoeddwyd fideo i gyd-fynd â’r sengl, a hwnnw wedi’i  gyfarwyddo gan yr amryddawn Edie Morris a’i brawd George Morris. Mae’r fideo i’w weld ar lwyfannau digidol Lŵp, S4C…neu cliciwch y botwm chwarae isod! 

 

Artist: Rogue Jones

O un band cwyrci i un arall – mae’n hyfryd gweld Rogue Jones yn ôl gyda sengl newydd wythnos yma. 

‘Englynion Angylion’ ydy’r sengl ddiweddaraf gan brosiect y pâr priod Bethan Mai ac Ynyr Morgan Ifan

Dyma’r cynnyrch gwreiddiol cyntaf gan Rogue Jones ers 2016, oedd yn flwyddyn fawr i’r grŵp amgen wrth iddynt ryddhau eu halbwm cyntaf, VU. 

Rhyddhawyd fersiwn newydd o’r albwm hwnnw oedd yn cynnwys fersiynau o’r traciau i gyd wedi’u hail-gymysgu gan artistiaid amrywiol llynedd, gydag awgrym ar y pryd fod albwm newydd ar y gweill.  

Ymddengys taw ‘Englynion Angylion’ ydy’r blas cyntaf o’r albwm hwnnw, ac yn gallwn ddisgwyl rhagor o senglau dros y misoedd nesaf yn arwain at yr albwm. 

Yn ôl y grŵp mae’r trac newydd ganddynt sy’n ‘alwad ewfforig orymuso, rhyddhad a gwrthryfela’ yn ôl y grŵp ac yn esiampl o Rogue Jones yn “cysylltu â’u gwrach fewnol a chofleidio byd natur”. 

Dechreuodd hon, sengl gyntaf y band o’u hail albwm, fel pennill gan Fiona Apple neu Kate Bush dan arweiniad y piano cyn cael ei thrawsnewid i The Loft yn Efrog Newydd y 70au gan ysbryd David Mancuso. 

Dychwelodd Rogue Jones i Stiwdios Tŷ Drwg i ddechrau gweithio ar ‘Englynion Angylion’ gyda’r cynhyrchydd Frank Naughton, ac maent wedi recriwtio criw o hen gyfeillion eraill i weithio ar y trac. 

Un o’r rheiny ydy Llŷr Pari, sy’n chwarae’r drymiau ar y gân a hefyd wedi’i chymysgu.  Mae Elen Ifan hefyd yn ymuno ar y soddgrwth ynghyd â Mari Morgan a’r  ffidil disgo a gafodd eu recordio yng Nghaernarfon gan Gruff Ab Arwel.

“Englynion Angylion yw ein hymgais i wneud disgo cerddorfaol o’r 1970au, ond, fel popeth arall byddwn ni’n creu, gyda naws ychydig yn rhyfedd” meddai’r band. 

Yn sicr rydyn ni’n falch i weld a chlywed nawr rhyfedd Rogue Jones unwaith eto.

Dyma’r fideo ar gyfer y trac sydd wedi’i gyfarwyddo gan Ynyr Morgan Ifan o’r band…

Record: Bato Mato – Adwaith

Hawdd iawn oedd y dewis ar gyfer ein record yr wythnos yma, wrth i ail albwm Adwaith daro’r silffoedd. 

Bato Mato ydy enw record hir newydd y triawd o Gaerfyrddin, ac mae wrth gwrs yn ddilyniant i’w halbwm cyntaf gwych, Melyn, a gipiodd deitl Y Wobr Gerddoriaeth Gymreig yn 2019. 

Taith gan y band i Ddwyrain Ewrop ydy’r prif ddylanwad ar record hir ddiweddaraf y merched talentog sydd yn dangos datblygiad clir yn eu cerddoriaeth ac yn dyrchafu Adwaith i lefel arall eto. 

Wrth deithio i gyrion rhewllyd Rwsia ar y Trans-Siberian Express, sef y rheilffordd hiraf yn y byd, yn sydyn teimlai’r band ymhell o’u cartref nôl yng Nghaerfyrddin. 

Wedi’u harwain gan eu tywysydd ffyddlon Bato Mato wrth i Lyn Baikal rhewllyd chwipio heibio’r ffenestri, cyrhaeddodd y triawd ddinas rynllyd Ulan-Ude. Roedd y palmentydd yn wag wrth i bobl leol frwydro yn erbyn yr oerfel, gan baentio’r strydoedd mawreddog  a rhyw fath o unigedd. 

Yn rhyfedd iawn, gwelais debygrwydd rhwng y fan honno, a Chaerfyrddin,” meddai’r drymiwr Heledd Owen. 

“Fe allech chi deimlo’r unigrwydd hwn. Roedd yn teimlo fel y ddinas wag hon.”

Ac wrth i Adwaith deithio ymhellach i Ddwyrain Ewrop, trawsnewidiodd y daith yn un o ddarganfod creadigol. Tra bod albwm cyntaf y band Melyn yn ffilm gerddorol, yn breuddwydio am bosibiliadau bod yn oedolyn, mae Bato Mato yn syllu mewn i ddrych ac yn gweld realiti llwm yn brathu. 

Mae atgofion y band o deithio trwy Rwsia wedi treiddio i wead yr albwm newydd gyda thraciau pwerus diwydiannol fel ‘Yn Y Sŵn’ ac ‘Anialwch’ yn tanio atgofion o pistons di-baid y trên cyflym aeth â nhw drwy’r wlad. 

“Roedd yn daith a newidiodd ein bywydau a’n hysbrydolodd i ysgrifennu’r albwm hwn,” eglura’r basydd Gwenllian Anthony. 

“Fe wnaeth y dirwedd ddiffrwyth a’r bensaernïaeth brutalist dreiddio i’r caneuon hyn a chafodd y defnydd o offerynnau’r byd ei ysbrydoli’n fawr gan y daith hon.”

“Dylanwadodd ein taith trwy anialwch Siberia a Mongolia ar yr ysgrifennu ac ar sain yr albwm i fod mor agored a mawr â’r awyr ddiderfyn o’n cwmpas ni yno,” ychwanega’r gitarydd a phrif ganwr, Hollie Singer.

Mae Bato Mato yn tynnu ar lwyth o ddylanwadau’r grŵp, gan gynnwys yr arloeswyr Cymreig Datblygu, y grŵp post-pync Gothig Siouxsie and the Banshees, a niwl digalon Belly and The Breeders. Uwchlaw popeth arall, mae’n hwyl; wedi’u hysbrydoli gan gymrodoriaeth bandiau fel The Slits, mae gwahoddiad i bawb ymuno â’r parti.

Recordiwyd yr albwm yn bennaf yn stiwdios Giant Wafer yn Llandrindod, gyda’r grŵp yn dychwelyd at gynhyrchydd Melyn, Steffan Pringle ar gyfer eu hail record, gyda Gethin Pearson hefyd yn gweithio ar y trac epig,’ETO’. 

Dyma’r fideo ar gyfer sengl wych arall o’r albwm, ‘Wedi Blino’: 

 

 

Un Peth Arall: Fideo ‘Cysgod Mis Hydref’

Fideo newydd y gallech chi fod wedi colli, sef hwnnw ar gyfer sengl ddiweddaraf Candelas, ‘Cysgod Mis Hydref’. 

Rhyddhawyd y sengl ar ddiwedd mis Mai ar label Recordiau I KA CHING, ac mae’r fideo i’w weld ar sianel YouTube y label nawr

Rhyddhawyd y sengl ar ddiwedd mis Mai ac mae’n gân serch gelwyddog ydi sy’n trafod y teimlad braf o fod mewn cariad a sut mae’r pethau bach, fel gweld neges gan y person yna yn ymddangos ar dy ffôn, yn dod a chysur.

Dyma’r fid: