Pump i’r Penwythnos – 25 Chwefror 2022

Gig: Lowri Evans, Cerys Hafana, Derw, Huw Dylan – Tŷ Tawe, Abertawe – 25/02/22

Clamp o gig yn Abertawe heno fel rhan o ddigwyddiad Gŵyl Groeso yn y ddinas. 

Mae Tŷ Tawe wedi bod yn fywiog iawn o ran gigs ers i gyfyngiadau’r pandemig lacio eto, a dyna’r lle i fod heno eto.

Mae’r leinyp yn cynnwys Lowri Evans a Lee Mason, Cerys Hafana, Derw a’r gŵr lleol, Huw Dylan. 

Gwerth sôn hefyd am gwpl o gigs ganol yr wythnos, ar ddydd Gŵyl Dewi yn benodol gydag Adwaith, Eädyth a Bandicoot yn mynd â cherddoriaeth Gymraeg i’r Roundhouse yn Llundain, a gig Gŵyl Dewi yng Nghlwb Ifor Bach hefyd gyda Los Blancos, Mali Hâf a Mantis. 

 

Cân:  ‘Eto’ – Adwaith

Grêt i weld Adwaith yn ôl wythnos yma gyda sengl sy’n ragflas i’w hail albwm. 

‘Eto’ ydy enw’r trac newydd gan triawd ôl-bync arloesol  o Gaerfyrddin, ac mae’n dipyn o diwn.

Bydd yr albwm newydd, Bato Mato, allan ar 1 Gorffennaf ac os ydy gweddill y caneuon hanner cystal ag ‘Eto’ yna rydan ni’n mynd i gael gwledd i’r glust. 

Er gwaethaf cyfnod cymharol dawel i Adwaith yn ystod y pandemig, mae’n amlwg o’r sengl newydd eu bod  nhw wedi bod yn gweithio’n galed yn y cefndir ac yn bwriadu codi’r band i’r lefel nesaf gyda Bato Mato. 

Maen nhw wedi mynd o nerth i nerth dros y blynyddoedd diwethaf, y gerddoriaeth wedi aeddfedu a ffeindio sŵn sy’n unigryw iddyn nhw. Er cystal eu caneuon diweddar, mae dadl gref dros ddweud mai ‘Eto’ ydy eu trac gorau hyd yma. 

‘Eto’ oedd y gân gyntaf a ysgrifennwyd ar gyfer eu halbwm newydd yn dilyn y profiad arbennig o chwarae UU.Sound yn Ulan-Ude, Siberia. Cafodd y daith drwy dirwedd wyllt Siberia a Mongolia ddylanwad mawr ar eiriau a sain yr albwm, gan eu hysbrydoli i greu cerddoriaeth mor eang ac anferth a’r awyr glir o’u hamgylch.

“Roedden ni wir eisiau ysgrifennu cân ddiffuant am ddisgyn mewn cariad gyda rhywun” meddai Adwaith. 

“Tydi hyn ddim yn rhywbeth rydym yn ysgrifennu amdano ac roedden ishe trin y broses o greu’r gân yma yn wahanol i’n rhai eraill. Cawsom ni ein hysbrydoli i ysgrifennu cân pop enfawr”

Mae hi’n sicr yn cwrdd a’r briff hwnnw! 

 

Record: Amser Mynd Adra – Papur Wal

A hwythau wedi cipio teitl ‘Record Hir Orau 2021’ yng Ngwobrau’r Selar wythnos diwethaf, roedd yn teimlo’n briodol dangos bach o gariad at Papur Wal wythnos yma, a’u halbwm cyntaf, Amser Mynd Adra. 

Roedden ni gyd yn gwybod bod Papur Wal yn fand da – roedd eu senglau dros y blynyddoedd, ynghyd â’r EP Lle yn y Byd Mae Hyn? a ryddhawyd yn 2019 wedi profi hynny. Ond, mae Amser Mynd Adra wedi dyrchafu’r grŵp i haen uwch – mae rhain bellach yn un o fandiau gorau Cymru. 

Mae ‘na eithriadau i’r drefn wrth gwrs, ond nes bod band yn rhyddhau albwm llawn mae rhywun yn teimlo nad ydyn nhw cweit wedi cyrraedd. Ac mae rhywun yn cydymdeimlo gydag arstiaid sydd wedi, neu oedd wedi bwriadu, rhyddhau recordiau hir dros y ddwy flynedd ddiwethaf heb sicrwydd o gigs i hyrwyddo eu cynnyrch. 

Er hynny, mae Papur Wal wedi llwyddo i fynd ati i greu buzz am yr albwm er gwaethaf heriau’r pandemig. Maent wedi rhoi pwyslais ar greu fideos da ar gyfer eu caneuon ers y dechrau, ac roedd hynny’n fantais wrth ryddhau senglau cyntaf yr albwm, ‘Llyn Llawenydd’ ac ‘Arthur’ – dau fideo oedd ar restr fer categori ‘Fideo Cerddoriaeth Gorau 2021’ Gwobrau’r Selar. 

Y ffaith syml arall ydy eu bod nhw’n gallu ysgrifennu tiwn dda hefyd – gweler y senglau uchod am esiamplau perffaith. Tiwns pop indie slacyr gwych heb os, ond rhai sydd hefyd yn llifo o’r sain unigryw mae’r grŵp wedi’i fireinio dros y blynyddoedd diwethaf – pan rydach chi’n clywed cordiau cyntaf y caneuon yma, does dim amheuaeth mai Papur Wal ydyn nhw. 

Wyddoch chi beth sy’n gyffrous hefyd – mae fersiwn feinyl yr albwm ar y ffordd, a fedrwn ni ddim aros i roi hon ar y deck

Dyma sesiwn Papur Wal ar gyfer ôlbarti Gwobrau’r Selar unwaith eto rhag ofn i chi ei fethu – gwerth gwylio yn sicr

 

Artist: Glain Rhys

Cyfle i roi sylw i’r cerddor o ardal Y Bala, Glain Rhys, wythnos yma gan mai hi ydy’r ddiweddaraf i ryddhau trac o’r casgliad i ddathlu deng mlwyddiant y label recordiau I KA CHING.

‘Sara’ ydy enw’r sengl newydd gan Glain sydd allan ers dydd Gwener diwethaf, 18 Chwefror. Mae’n dilyn traciau gan Candelas, Gwenno Morgan a Carcharorion sydd wedi’u rhyddhau dros yr wythnosau diwethaf i nodi pen-blwydd y label recordiau. 

Efallai bydd y gân iasol eisoes yn gyfarwydd i lawer gan i Glain ei pherfformio am y tro cyntaf fel rhan o’r Gig y Pafiliwn I KA CHING fis Awst.

Mae Glain yn aelod cymharol newydd i deulu I KA CHING ar ôl iddi ryddhau ei halbwm cyntaf, Atgof Prin, ar label Rasal nôl yn 2018. 

Wrth iddi ymuno â label newydd mae wedi mynd ati i ail-ddiffinio ei harddull cerddorol gan weithio gydag Osian Huw Williams, Stiwdio Drwm i ddatblygu sŵn mwy pop electronig. Mae hyn wedi bod yn amlwg ar y senglau mae eisoed wedi’u rhyddhau ar I KA CHING sef ‘Plu’r Gweunydd’ yn Ionawr 2021 a ‘Swedish Tradition’ a ryddhawyd ym mis Mai llynedd

“Ymateb i’r gân Jolene gan Dolly Parton ydi ‘Sara’” eglura Glain Rhys. 

“Dwi’n cofio gwrando arni a meddwl, tybed be fydde hi’n ddeud yn ôl. Ma pawb mor barod i farnu hi ond neb wedi clywed ei hochr hi o’r stori.” 

“Recordiwyd y sengl yn stiwdio Sain yn Llandwrog flwyddyn dwetha, a hon ydi un o fy hoff ganeuon oddi ar fy narpar albwm newydd. Osian sy’n creu’r trefniannau offerynnol i fi, a dw i wrth fy modd hefo’r diwedd epic.” 

Mae ‘na fideo trawiadol ar gyfer y trac wedi’i gyfarwyddo gan Lindsay Walker  ar lwyfannau Lŵp, S4C hefyd, a dyma fo:

 

 

Un Peth Arall: Gŵyl Fel ‘na Mai – gŵyl newydd Sir Benfro

Mae manylion gŵyl newydd sbon yng Nghrymych, Sir Benfro, wedi eu datgelu.

Bydd Gŵyl Fel ‘na Mai yn cael ei chynnal ar safle Maes Ploveilh yng Nghrymych, sydd yng nghesail mynydd y Frenni Fawr – ardal godidog o’r wlad.  

Cynhelir yr ŵyl newydd ar 7 Mai ac mae addewid o ddau lwyfan, ynghyd â chyfleusterau bwyd, bar diodydd a gweithgareddau plant amrywiol. 

Mae’r leinyp hefyd yn drawiadol ac yn cynnwys rhai o enwau mwyaf cerddoriaeth gyfoes Gymraeg fel Mei Gwynedd a Los Blancos, ochr yn ochr â thalentau lleol sy’n cynnwys corau, cantorion unigol a stand yps. 

Dyma’r perfformwyr sydd wedi’u cyhoeddi hyd yma ar gyfer y digwyddiad: 

Mei Gwynedd

Dafydd Iwan

Los Blancos

Bwncath

Einir

Dafydd

Dafydd

Pantrod a’r band

DJ Daf

Dafydd Pantrod a’r band

Côr Bois Clwb Rygbi Crymych

Erin Byrne

Manon Elster Jones

Côr Dysgu Cymraeg Sir Benfro

Ysgol Bro Preseli

Yn ôl y trefnwyr bydd mwy o berfformwyr yn cael eu cyhoeddi rhwng hyn a dyddiad yr ŵyl – cadwch olwg ar y digwyddiad Facebook am y newyddion diweddaraf. 

Mae tocynnau’r ŵyl eisoes ar werth am bris cyntaf i’r felin gostyngol ar wefan yr ŵyl – £18 i oedolion a £12 i blant (pris llawn – £20/£15).