Y prosiect cerddorol amgen o Ganolbath Cymru, Sachasom, oedd enillydd cystadleuaeth Brwydr y Bandiau Maes B a BBC Radio Cymru 2022.
Sachasom, sef prosiect y cerddor Izak Zjalič, ddaeth i’r brig yn y rownd derfynol a gynhaliwyd ar lwyfan perfformio maes yr Eisteddfod Genedlaethol yn Nhregaron ar brynhawn Mercher 3 Awst.
Roedd pedwar o artistiaid yn y rownd derfynol i gyd sef Rhys Evan, Francis Rees, Llyffant a Sachasom.
Y tri beirniad oedd yn gyfrifol am ddewis yr enillydd oedd y cynhyrchydd electronig, Endaf, a gantores Casi a’r artist grime, Lemfreck.
Izak Zjalič ydy prif egni Sachasom, ond roedd Lewys Meredydd o’r band Lewys yn perfformio fel rhan o’i fand byw yn y gystadleuaeth.
Mae Lewys hefyd wedi gweithio ar albwm cyntaf Sachasom, ‘Yr Offerynnols Uffernoliadaus!’ a ryddhawyd ar ddydd Gwener 22 Gorffennaf.
Ffurfiwyd Sachason yn 2019 gyda’r bwriad gwreiddiol o ryddhau’r bîts roedd yn eu creu ar SoundCloud. Yn fuan iawn roedd wedi dod i sylw label Afanc, sy’n cael ei redeg gan Gwion ap Iago (Roughion) a penderfynodd Izak y byddai’n well ryddhau deunydd Sachason trwy’r label hefyd “oherwydd fod mwy o bwyslais ar yr elfen electroneg” meddai.
Yn ogystal â rhyddhau’r albwm, mae’r prosiect hefyd wedi cyhoeddi fideo ar gyfer y trac ‘Agor’ yn ddiweddar, wedi’i gynhyrchu gan gwmni Pypi Slysh.
Gallwch ddysgu mwy am holl artistiaid rownd derfynol Brwydr y Bandiau eleni yn ein eitem ‘Newydd ar y Sin’ yn rhifyn diweddaraf Y Selar.
Dyma syniad bach i chi o’r hyn ma Sachasom yn gwneud: