Pump i’r Penwythnos – 12 Awst 2022

Gig: Eve Goodman, Bwncath, Pedair – Llety Arall, Caernarfon – 12/08/22

Gadewch i ni fod yn onest, oedd Steddfod yn full on yn doedd. 

Ar ôl dwy flynedd heb Steddfod, roedd hi wrth gwrs yn wych gweld y digwyddiad yn ôl ac fe gafwyd wythnos fythgofiadwy yn Nhregaron. 

Ond a ninnau allan o bractis braidd, ma’n siŵr bod lot fawr o flinder, cur pen, colli llais ac angen am orwedd mewn ystafell dywyll wythnos yma. Os ddim, wel mae’n bur amlwg na wnaethoch chi Steddfod yn iawn! 

Ta waeth, roedden ni’n meddwl bod digwyddiad bach hamddenol yn well fel ein dewis o gig wythnos yma a gallwn ni ddim meddwl am lein-yp gwell na’r un sy’n Llety Arall, Caernarfon heno

 

Cân: ‘Pedair Deilen’ – Mali Hâf

Mae Mali Hâf wedi bod yn weithgar iawn yn 2022 hyd yma ac mae hynny’n parhau wrth iddi ryddhau ei sengl newydd heddiw. 

Cân wedi’i hysgrifennu i’w ffrind gorau ydy ‘Pedair Deilen’ ac mae’n dwyn i gof yr achlysur pan fu i’w ffrind ddarganfod meillionen pedair deilen yn Eisteddfod Genedlaethol Meifod, 2015 pan oedd yn ddwy yn ddeunaw oed. 

Mae’r sengl newydd yn dilyn cwpl o senglau blaenorol sydd eisoes wedi’u rhyddhau gan Mali eleni gan gynnwys ‘Heuldy’ a ryddhawyd ar y cyd gyda FRMAND ym mis Mai a’r thrac Cân i Gymru, ‘Paid Newid Dy Liw’ a ryddhawyd ganddi fis Mawrth.   

Ceir neges glir yn ‘Pedair Deilen’ sef y gallwch ddibynnu ar brydferthwch byd natur a chyfeillgarwch ffrind go iawn. 

Cân feel good go iawn ydy hon sydd eisoes yn ffefryn gyda chynulleidfa fyw Mali.  Mae’r rhythmau ffync a’r lleisio neo-soul yn agweddau mae Mali a’i band talentog eisiau datblygu yn eu cerddoriaeth gyda chefnogaeth Recordiau Jigcal. 

Mae Mali hefyd yn gweithio ar EP newydd, gyda’i band, Trystan, Ioan a Bryn, yn Sdiwdios JigCal. 

Dyma flas o’r hyn sydd i ddod felly:

 

Artist: Sachasom

Dyma chi enw newydd, ond un sydd wedi ymddangos sawl gwaith gan Y Selar dros yr wythnosau diwethaf. 

Ac mae rheswm da am hynny, gan fod Sachasom, sef prosiect cerddorol diweddaraf Izak Zjalič wedi bod yn brysur iawn, ac yn llwyddiannus iawn. 

Daw Izak o Fachynlleth ac fe allech chi fod wedi dod ar ei draws o’r blaen gyda phrosiect Tai Haf Heb Drigolion a gafodd beth sylw gan Y Selar. Bydd aelod arall Sachasom yn gyfarwydd iawn i chi hefyd sef, Lewys Meredydd, ffryntman egnïol y band gwych Lewys. Er mai Izak sy’n bennaf gyfrifol am y grŵp, mae Lewys yn rhan allweddol o berfformiadau byw a hefyd wedi gweithio ar recordiadau Sachasom. 

Yn ddiweddar fe wnaethon ni roi sylw i fideo Sachasom  ar gyfer y trac ‘Agor’ a gynhyrchwyd gan gwmni Pypi Slysh.

Yna rhyw wythnos cyn yr Eisteddfod fe ryddhawyd albwm cyntaf Sachasom, ‘Yr Offerynnols Uffernoliadaus!’. 

Does dim dau heb dri medden nhw, ac yr wythnos hon mae cyfle pellach i ni sôn am Sachasom gan mai nhw oedd enillydd cystadleuaeth Brwydr y Bandiau Maes B a BBC Radio Cymru 2022. 

Cynhaliwyd rownd derfynol y gystadleuaeth ar lwyfan perfformio maes yr Eisteddfod Genedlaethol yn Nhregaron ar brynhawn Mercher 3 Awst.

Pedwar o artistiaid oedd yn y ffeinal  i gyd sef Rhys Evan, Francis Rees, Llyffant a Sachasom. Y tri beirniad oedd yn gyfrifol am ddewis yr enillydd oedd y cynhyrchydd electronig, Endaf, a gantores Casi a’r artist grime, Lemfreck. 

Ffurfiwyd Sachason yn 2019  ac maen nhw wedi bod yn gweithio’n agos gyda label Afanc, sy’n cael ei redeg gan Gwion ap Iago (Roughion). Mae cyflwyniad llawn i’r band, ynghyd â’r artistiaid eraill oedd yn rownd derfynol Brwydr y Bandiau eleni, yn rhifyn diweddaraf cylchgrawn Y Selar. 

Yn dilyn yr holl lwyddiant diweddar, rydan ni’n disgwyl clywed lot mwy gan y prosiect, felly cadwch olwg am y diweddaraf ar wefan Y Selar. 

Record: Deuddeg – Sywel Nyw

Roedd dewis amlwg o record hir ar gyfer y categori hwn wythnos yma wrth i albwm Sywel Nyw gipio teitl Albwm Cymraeg y Flwyddyn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Nhregaron wythnos diwethaf. 

Cyhoeddwyd y newyddion mewn seremoni unigryw ar lwyfan Pafiliwn yr Eisteddfod ar ddydd Mercher yr Eisteddfod, 3 Awst. Dyma’r tro cyntaf i’r wobr gael ei chyflwyno ym Mhafiliwn yr Eisteddfod ac roedd hynny’n ddatblygiad bach difyr yn ein tyb ni.

Os nad ydach chi’n gwybod hynny bellach, Sywel Nyw ydy prosiect unigol y cerddor Lewys Wyn, sef ffryntman Yr Eira. 

Record hir Deuddeg oedd penllanw ei brosiect uchelgeisiol  i ryddhau sengl newydd bob mis, gan gyd-weithio gydag artist gwahanol bob tro, yn ystod 2021.

Rhyddhawyd yr holl senglau fel cyfanwaith ar yr albwm ar 21 Ionawr 2022.  

Dipyn o brosiect, ac un sy’n llawn haeddu’r wobr – llongyfs mawr i Lew a’i holl bartneriaid cerddorol! 

Dyma un o draciau gorau’r albwm, y glincar ‘10/10’ gyda Lauren Connolly

=

Un Peth Arall: Pleidlais dros Roughion

Er nad ydyn nhw’n hollol siŵr sut, mae’r ddeuawd electronig o Aberystwyth, Roughion, wedi glanio ar restr fer o artistiaid sydd â chyfle i berfformio yn nigwyddiad MarteLive yn Bosnia. 

Gŵyl showcase a gynhelir pob dwy flynedd ydy MarteLive. Mae’n ddigwyddiad sy’n dathlu pob math o gelf newydd ac mae Roughion wedi’u rhestru yn y categori DJs a Chynhyrchwyr. 

Mae’r cyfle i Roughion berfformio ym Mosnia mewn gwirionedd yn rownd gyn-derfynol ar gyfer y brif ŵyl fydd yn digwydd yn Rhufain fis Hydref. 

Ond, mae Roughion angen eich pleidlais chi os ydyn nhw am gyrraedd y rownd gynderfynol! 

Pleidleisiwch nawr bobl!