Synau Hylif yn llifo ar albwm cyntaf

Mae Hylif, sef prosiect cerddorol diweddaraf un o gyn-aelodau Texas Radio Band, wedi rhyddhau ei albwm newydd. 

Yn Fy Mhenglog ydy enw’r record hir sydd allan ar y llwyfannau digidol yn swyddogol ers dechrau mis Awst. 

Hylif ydy prosiect cerddorol unigol Rhodri Davies oedd yn chwaraewr allweddellau ac yn un o sylfaenwyr y grŵp uchel eu parch o Gaerfyrddin, Texas Radio Band.

Mae Rhodri wedi bod yn byw a gweithio yn Sydney, Awstralia ond wedi dychwelyd i Gymru gydag albwm newydd i’w enw ar ôl cyfnod estynedig tu hwnt i’w famwlad.

Albwm aml-arddull

Mae cerddoriaeth Hylif yn aml-arddull gyda synau sy’n amrywio o acwstig, i lolfa i roc electronig trwm. Er hynny, yn ôl y cerddor gellir cyffredinoli’n sŵn yn fras fel “indi synth pop roc amgen”.

Mae ei eiriau yn trafod themâu dwys fel y cwestiynau mawr, a manylion difater bywyd pob dydd yn gyfartal, ond wastad gyda naws hwyliog ac absẃrd.

Mae Yn Fy Mhenglog yn gyfres o ganeuon Cymraeg yn ymdrîn ag adnewyddu persbectif, dyletswydd at hunaniaith ac, am resymau amlwg, am ymdopi â byw oddi cartref. Mae’r cyfan yn cael ei berfformio gyda naïfrwydd, hiwmor ac egni; cenir â thafod yn gadarn yn y boch, yn naws leddfol yr iaith Gymraeg.

Bu Hylif yn perfformio’i ganeuon draw yn Awstralia ac yn fwy diweddar nôl yng Nghymru gan cynnwys sioe arbennig yn Rhaeadr Gwy gydag Awstraliad arall sy’n canu yn y Gymraeg, sef Ffredi Blino, ac yn ei fro genedigol yng Ngŵyl Cerddoriaeth Caerfyrddin penwythnos diwethaf.

Mae’r albwm yn ddilyniant i EP o’r enw Why Don’t You Tell Her a ryddhawyd gan Hylif ym mis Rhagfyr 2021. 

Gellir cael gafael ar Yn Fy Mhenglog ar wefan Hylif neu ar ei safle Bandcamp.  

Dyma ‘Yn y Dechreuad’ o’r albwm: