Awst yn rhyddhau albwm cyntaf

Mae Awst, sef prosiect cerddorol unigol Cynyr Hamer, wedi rhyddhau ei albwm cyntaf ers dydd Gwener diwethaf, 26 Awst. 

‘Haul/Lloer’ ydy enw record hir prosiect unigol y cerddor sydd wedi bod yn aelod o sawl band yn y gorffennol. 

Mae’r albwm ar gael i’w brynu’n ddigidol ar Bandcamp ac yn ychwanegol at hynny mae nifer cyfyngedig o gopïau CD o’r record ar gael i’w harchebu yn yr un man. 

Wyth trac sydd ar yr albwm a hynny’n arwyddocaol gan eu bod nhw’n cynrychioli’r wythfed mis o’r flwyddyn sy’n rhannu enw’r prosiect, sef mis Awst wrth gwrs. 

Yn ôl Cynyr, mae ‘Haul/Lloer’ yn albwm i’r haf sy’n llawn addfwynder acwstig ac alawon breuddwydiol wedi’u plethu mewn synths symudliw ac adrannau pres. Mae’n albwm sy’n llawn pegynau, haul a lleuad, dydd a nos, major a minor, bywyd a marwolaeth.

Bydd enw Cynyr Hamer yn un cyfarwydd i lawer o bobl sy’n dilyn cerddoriaeth gyfoes Gymraeg ar ôl iddo fod yn aelod o sawl band amlwg yn y gorffennol gan gynnwys Worldcub (CaStLeS gynt), Hippies vs Ghosts ac We Are Animal.

Mae Awst yn brosiect unigol newydd ganddo, ac mae wedi bod yn brysur yn ysgrifennu ac yn recordio caneuon newydd ers haf 2020. Rhyddhawyd ei gynnyrch cyntaf ym mis Ebrill 2021 sef y sengl ddwbl ‘Lloeren’ a ‘Send a Sign to the Satellite’. Ers hynny mae wedi rhyddhau senglau pellach sef ‘Haul Olaf’ ym mis Awst 2021 ac yna ‘Sant y Lloer’ yn Ebrill 2022