Albwm newydd Tegid Rhys ar y ffordd

Pedair blynedd ar ôl rhyddhau ei record gyntaf, mae Tegid Rhys yn ôl gyda chasgliad newydd o ganeuon fydd allan ar 14 Ebrill. 

Lle bu’r Afon yn Llifo ydy enw ei albwm newydd a fydd yn cael ei ryddhau ar label Recordiau Madryn ac mae’n ddilyniant i’w record hir gyntaf, Pam Fod y Môr Dal Yna? a ryddhawyd yn 2019

Daw’r newyddion am yr albwm newydd  ychydig wythnosau ar ôl rhyddhau’r sengl gyntaf yr albwm, ‘Y Freuddwyd’ ac fe ddilynwyd hynny gan ail sengl, ‘Gwelais i Ti’, a ryddhawyd ar 5 Ebrill fel tamaid pellach i aros pryd nes y casgliad llawn.

Mae Lle bu’r Afon yn Llifo wedi ei recordio yn stiwdio gartref Tegid ac yn stiwdio Sain, Llandwrog. Cynhyrchwyd a chymysgwyd yr albwm gan Aled Hughes (Cowbois Rhos Botwnnog), gydag Aled hefyd yn chwarae bas ar yr albwm. Hefyd yn ymuno â Tegid ar yr albwm mae Osian Huw Williams (Candelas, Siddi) a gyfrannodd ar y drymiau. 

Cerddor ’naïf’

Gyda Lle bu’r Afon yn Llifo, mae Tegid yn cymryd ysbrydoliaeth gan ei gariad at gerddoriaeth ‘Americana’ ac yn ei blethu gyda’i naws werin amgen, seicadelig a’i arddull gerddorol awyrol. 

“Mae rhai blynyddoedd wedi mynd heibio ers i mi ryddhau fy albwm cyntaf, ac ers hynny dwi wedi bod yn ’sgwennu a hefyd yn gweithio ar rai caneuon hŷn sydd wedi bod yn hongian o gwmpas ers sbel” meddai Tegid. 

“Cafodd yr albwm ei gynhyrchu gydag Aled Hughes ac unwaith eto, mi wnes i fwynhau gweithio efo fo’n fawr iawn. 

“Aled gynhyrchodd fy albwm cyntaf, ac roedd y broses a chanlyniad yr un yna’n golygu fy mod i wir eisiau gweithio gydag o eto ar yr un yma. Dwi’n teimlo fod Aled wastad yn dod â chymaint mwy i’r hyn dwi eisiau ei gyflawni, felly ro’n i wir yn edrych ymlaen at weithio efo Aled eto. 

“Mae fy ffrindiau wedi fy nisgrifio fel cerddor ’naïf’ (yng nghyd-destun celf gwerin naïf), achos mae’r themâu sydd o amgylch fy nghaneuon yn bersonol iawn i mi. Dwi’n meddwl bod yr albwm yma’n aros yn driw i hynny, ond mae ’na rai ‘pynciau’ newydd sydd fel pe baent wedi dod i’r blaen ers fy albwm diwethaf, sydd wrth edrych yn ôl yn ymddangos yn eithaf diddorol i mi, yn ogystal â’r cyfeiriad lle mae fy ysgrifennu a fy nghaneuon yn mynd gyda’r albwm yma”.  

Rhyddhau ‘Gwelais i Ti’

‘Gwelais i Ti’ yw ail sengl yr albwm, ac er mai dyma’r tro cyntaf iddi weld golau dydd ar record, eglura Tegid ei bod yn hen gân mewn gwirionedd. 

“Mae’r gân wedi bod o gwmpas ers amser maith, ac o bosib yn un o fy nghaneuon cynharaf, ond cafodd ei rhoi ar y ‘back burner’ gan fy mod i’n trio dod o hyd i’r sŵn a’r ‘feib’ iawn iddi” meddai Tegid.

“Mae’r gân yn ymwneud â moment emosiynol o weld fy mab am y tro cyntaf a chael rhuthr enfawr o wahanol deimladau ac emosiynau yn fy nharo fel ‘juggernaut’ mewn fflach. 

“Er iddi gael ei hysgrifennu dipyn yn ôl, dwi’n meddwl bod y gân wedi aros o gwmpas achos cafodd y foment honno effaith mor bwerus arna i, felly mae ‘Gwelais i Ti’ wedi aros o gwmpas, mewn ffordd, i ffeindio’r amser iawn i ddod allan.”