Mae Dafydd Owain wedi rhyddhau ei ail sengl unigol ar label Recordiau I KA CHING.
‘Gan Gwaith’ ydy enw’r trac newydd gan y cerddor sy’n gyfarwydd fel aelod o’r bandiau Eitha Tal Ffranco, Jen Jeniro a Palenco yn y gorffennol.
Daw’r sengl ddiweddaraf yn fuan ar ôl rhyddhau ei sengl unigol gyntaf, ‘Uwch Dros y Pysgod’, ar ddiwedd mis Ionawr.
Mae’r sengl newydd yn flas pellach o’r hyn sydd i ddod ar albwm cyntaf Dafydd Owain sy’n cael ei ryddhau ar I KA CHING ym mis Mai eleni.
Stori a chân serch
Roedd cyfle cyntaf i glywed ‘Gan Gwaith’ ar raglen BBC Radio Cymru Huw Stephens nos Iau diwethaf, 23 Chwefror.
“Stori a chân serch ydi ‘Gan Gwaith’”, meddai Dafydd.
“Mae hi’n stori sydd wedi ei seilio ym myd ‘Uwch Dros y Pysgod’—y pentref dychmygol mae fy albwm wedi ei selio arni.
“Mae llawer o’r caneuon oddi ar yr albwm yn rhai lled-hunan-bortreadol, ond o bosib yn twrio i brofiadau bywyd sydd yn gyffredin i ni gyd—disgyn mewn cariad ydi pwnc llosg y sengl yma.”
Recordiwyd y sengl yn ystod haf 2022 yn Stiwdio Sain, Llandwrog, lle bu i Dafydd gydweithio â llu o gerddorion i ddod a’r gân yn fyw gan gynnwys Osian Williams (Candelas, Blodau Papur), Aled Hughes (Cowbois Rhos Botwnnog), Gethin Griffiths (Ciwb, Elis Derby) ac Elan Rhys (Plu, Carwyn Ellis & Rio 18).
“Daeth ‘Gan Gwaith’ i fodolaeth mewn ffordd eitha anghonfensiynol”, meddai Dafydd am recordio’r gân.
“Roeddwn i hanner ffordd drwy recordio’r albwm ac wrth wrando’n ôl ar y gwaith, doedd y caneuon roeddwn i’n bwriadu eu recordio i orffen yr albwm ddim yn gweithio rhywsut.
“Felly fe es i ati i gyfansoddi rhyw bedair cân newydd oedd yn teimlo fel eu bod am ffitio’n well o fewn llif yr albwm—‘Gan Gwaith’ oedd un o’r rheini.”