Anthem newydd Alffa

Mae’r ddeuawd roc o ogledd Cymru, Alffa, wedi rhyddhau eu sengl ddiweddaraf. 

A hwythau’n enwog am fod y band Cymraeg cyntaf i weld un o’u caneuon yn croesi miliwn ffrwd ar Spotify, mae eu caneuon bellach wedi croesi cyfanswm o 8 miliwm ffrwd ar y platfform hwnnw.  

Er hynny, nid ydym wedi gweld cerddoriaeth newydd gan y band ers peth amser. Yn wir, ‘Pwythau’ ydy eu sengl gyntaf ers Mehefin 2023. 

Yn dilyn eu perfformiad arbennig yng ngŵyl FOCUS Wales yn Wrecsam ddechrau’r mis, mae Alffa yn barod i fynd â ‘Pwythau’ yn rhyngwladol, gan ddechrau gyda gŵyl Morborock yn yr Eidal ddydd Gwener diwethaf (24/06/24). 

Mae’r band hefyd yn paratoi ar gyfer ymddangosiad yng ngŵyl NXNE Canada ganol mis Mehefin. Mae eu rhestr gigs dros yr wythnosau nesaf yn dangos eu hymrwymiad i’w cerddoriaeth yn ogystal â’u partneriaeth newydd gyda’r asiantaeth fyw, Whispering Pines. 

Wedi’i gynhyrchu gan Gethin Pearson, mae ‘Pwythau’ yn argoeli i fod yn garreg filltir newydd i Alffa a’r iaith Gymraeg, gan barhau â’u hegni i greu cerddoriaeth ddylanwadol ac arloesol.

GIGS ALFFA 

24.05 – Morborock, Morbegno (Yr Eidal)

08.06 – Gŵyl Tawe, Abertawe (Cymru)

11.06 – Socialbowl, London, Ontario (Canada)

13.06 – Quai des brumes, Montreal (Canada)

14.06 – The Paddock Tavern, Toronto (Canada)

Gadael Ymateb