Lleuwen yn westai ar sengl ddiweddaraf Griff Lynch

‘Ti Sy’n Troi’ ydy enw’r sengl newydd gan Griff Lynch sydd allan ar ei label ei hun, Lwcus T, ac sy’n cynnwys cyfraniad gan artist amlwg arall. 

Gan dilyn ‘Kombucha’ a ryddhawyd ym mis Mehefin eleni, sef y sengl gyntaf oddi ar ei albwm solo hir ddisgwyliedig fydd yn glanio yn 2025 — mae Griff Lynch yn dychwelyd gyda’i ail sengl o’r flwyddyn. 

Heb wyro gormod oddi ar ei arddull alt-pop arferol, mae ‘Ti Sy’n Troi’ yn serennu llais arbennig Lleuwen Steffan ac yn cynnwys synths breuddwydiol, minimalaidd. 

Wedi’i hysgrifennu yn ystod y pandemig, gadawyd y trac yn ddienw am bedair blynedd, nes i Lleuwen ei recordio yn gynharach eleni gyda’r cymysgydd, Rhys Edwards, sef cynhyrchydd yr albwm ‘Le Kov’ gan Gwenno. 

Yn plethu harmonïau hudolus gyda churiadau cynnil, mae’r trac hefyd yn cynnwys trefniannau llinynnol cyfoethog gan Owain Llwyd.

“Dwi’n ffan mawr o Lleuwen fel cantores ac fel artist” meddai Griff

“…ma’ popeth ma’ hi’n greu yn dod o le ‘go iawn’ a wastad yn taro tant efo fi. Dwi mor falch bod hi ar y trac yma.”

Wedi perfformio i lety llawn yn Clwb Ifor Bach fel rhan o ŵyl Sŵn rai wythnosau yn ôl, bydd Griff Lynch yn chwarae draw yn Two Palms, Hackney ar 7 Rhagfyr fel rhan o gig Klust. 

Dyma ‘Ti Sy’n Troi’: